Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Sgiliau Weldio Uwch (3268-03, MIG, TIG neu ARC)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
20 wythnos - 3 awr yr wythnos.
£299 – neu am ddim os ydych yn gymwys i gael cyllid Cyfrif Dysgu Personol.
Y gost i ddysgwyr amser llawn cyfredol yw £480.
Dyfarniad Lefel 3 City & Guilds mewn Sgiliau Weldio Uwch (3268-03, MIG, TIG neu ARC)Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio i alluogi dysgwyr i feithrin sgiliau a gwybodaeth weldio i lefel a fydd yn eu galluogi i weithio mewn swyddi cymhleth. Mae'n caniatáu i unigolion ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau uwch sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddatblygu gyrfa yn y sectorau peirianneg ac adeiladu.
Gofynion mynediad
Rhaid meddu ar gymhwyster Lefel 2 mewn Weldio a/neu brofiad sylweddol yn y gweithle yn y diwydiant a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.
Angen cyfweliad.
Cyflwyniad
Gwaith ymarferol i amlinellu'r elfennau theori, casglu tystiolaeth mewn llyfrau cofnodi ac un arholiad.
Asesiad
Gwaith cwrs ac un arholiad
Dilyniant
Rhagor o gyrsiau ar gael mewn meysydd eraill, a chyfleoedd gyrfa yn y diwydiant weldio
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg