Cwrs Gloywi CITB SSSTS (Site Supervisors' Safety Training Scheme)
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
1 diwrnod
Cwrs Gloywi CITB SSSTS (Site Supervisors' Safety Training Scheme)Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs undydd hwn yn addas i'r sawl sydd eisoes yn meddu ar dystysgrif SSSTS ac sydd angen diweddaru eu gwybodaeth a'u sgiliau'n unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol a chadw eu cymhwyster SSSTS.
Mae'r cwrs SSSTS wedi'i gymeradwyo gan yr United Kingdom Contractors Group fel yr hyfforddiant safonol i oruchwylwyr sy'n gweithio ar safleoedd UKCG.
Gofynion mynediad
Unrhyw ymgeisydd â thystysgrif SSSTS gyfredol sydd ar fin dod i ben.
Cyflwyniad
Caiff y cwrs rhyngweithiol hwn ei gyflwyno drwy gyfrwng astudiaethau achos, trafodaethau yn y dosbarth, gwaith grŵp a chyflwyniadau grŵp.
Asesiad
Ar ddiwedd y cwrs CITB SSSTS bydd gofyn i ymgeiswyr sefyll papur arholiad yn cynnwys 25 cwestiwn. Bydd 4 o'r rhain yn ymwneud â phwysigrwydd diogelwch a byddant angen ateb ysgrifenedig byr. Mae'r cwestiynau amlddewis yn werth 1 pwynt yr un a'r cwestiynau ar bwysigrwydd diogelwch yn werth rhwng 1 a 3 phwynt yr un. Er mwyn llwyddo ar y cwrs, RHAID i'r ymgeiswyr ateb POB cwestiwn ar bwysigrwydd diogelwch yn gywir.
Dilyniant
Y cam nesaf fyddai cwrs hyfforddi CITB SMSTS (Site Management Safety Training Scheme) pum diwrnod.
Gwybodaeth campws Llangefni
Amcanion y cwrs
Ar ôl cwblhau cwrs hyfforddiant gloywi SSSTS yn llwyddiannus, bydd cynrychiolwyr yn gallu:
• Deall y problemau presennol a amlygir yn y diwydiant o fewn eu rôl. • Meddu ar ddealltwriaeth o sut mae cyfraith iechyd a diogelwch wedi'i strwythuro ar hyn o bryd • Nodi sut mae eu rôl oruchwylio yn cyd-fynd â'r rheolwr wrth reoli'r safle'n ddiogel • Cynnal sesiynau sefydlu, briffiau, sgyrsiau bocs twls a deall yr angen am ddatganiadau dull • Gwella llwybrau cyfathrebu o fewn gweithgareddau'r safle.
Rhaglen y Cwrs:
Bydd cwrs hyfforddiant gloywi SSSTS yn cwmpasu'r pynciau canlynol:
• Blaenoriaethau gorfodi cyfredol / Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch / Amgylchedd • Risgiau tân a gweithdrefnau ac adroddiadau brys. • Diweddariadau arfer gorau: - • Sŵn a dirgryniad • Dermatitis • Asbestos • Cyffuriau ac Alcohol • Ffactorau straen • Gweithdrefnau asesu risg deinamig • Sylweddau peryglus • Gweithio ar uchder • Codi a chario • Sgyrsiau Bocs Twls
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
n/aAdeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig