Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

CIPS Lefel 6 - Diploma Proffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Ar-lein
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod yr wythnos (9am-2pm yn fras),

    35 wythnos y flwyddyn

    Mae'r cwrs yn cymryd tua blwyddyn i'w gwblhau.

Cofrestru
×

CIPS Lefel 6 - Diploma Proffesiynol mewn Caffael a Chyflenwi

Hyfforddiant rhan-amser

Dysgu o Bell
Cwrs dydd: 22/09/26, 9:00 YB | Cost: £4,146.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae Diploma Proffesiynol Lefel 6 CIPS wedi'i gynllunio ar gyfer uwch weithwyr proffesiynol caffael, rheolwyr ac arweinwyr sydd am ddylanwadu ar strategaeth fusnes ar lefel weithredol. Yn gyfwerth â gradd Anrhydedd, mae'r cymhwyster rhyngwladol cydnabyddedig hwn yn canolbwyntio ar feddwl strategol lefel uchel, arweinyddiaeth a datrys problemau cymhleth ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Fel myfyriwr Lefel 6, gallwch ddisgwyl astudio modiwlau uwch sy'n ymdrin â strategaethau cadwyn gyflenwi byd-eang, lliniaru risg fasnachol, arweinyddiaeth mewn caffael a rheoli perfformiad ariannol. Bydd y cwrs hwn yn apelio at y rhai sy'n anelu at rolau lefel weithredol, fel Cyfarwyddwr Caffael neu Brif Swyddog Caffael, ac sy'n dymuno sicrhau Statws Siartredig MCIPS a gydnabyddir yn fyd-eang.

Gofynion mynediad

Cymhwyster Lefel 5 CIPS, profiad sylweddol yn y diwydiant.

Mae pob lle yn amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Drwy ein platfform dysgu rhithwir, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, yn cydweithio ar aseiniadau dan arweiniad cyfoedion, ac yn cymhwyso fframweithiau caffael strategol i astudiaethau achos busnes yn y byd go iawn.

Asesiad

Caiff y cwrs ei asesu drwy arholiadau amlddewis ac arholiadau ysgrifenedig.

Dilyniant

Diploma Proffesiynol Lefel 6 CIPS yw'r garreg filltir academaidd olaf sy'n ofynnol i gyflawni Statws Siartredig MCIPS a gydnabyddir yn fyd-eang (yn amodol ar ofynion profiad).

Fel cymhwyster sy'n cyfateb i radd Anrhydedd, mae wedi'i gynllunio i gyflymu dyrchafiad i rolau arweinyddiaeth weithredol, fel Cyfarwyddwr Caffael neu Brif Swyddog Caffael.

Yn ogystal, mae graddedigion yn sefydlu'r sylfaen academaidd angenrheidiol i symud ymlaen yn uniongyrchol i astudiaethau ôl-raddedig, gan gynnwys rhaglenni MSc mewn Caffael Strategol neu MBAs Gweithredol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser

Lefel: 6

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn gwrando yn y dosbarth