Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

iploma Lefel 5 CIPD mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn, rhan-amser (31 sesiynau)

Gwnewch gais
×

iploma Lefel 5 CIPD mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol yn gymhwyster newydd sydd ar gael gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a gallwch ddewis astudio naill ai yn ein campws ym Mangor neu Llandrillo-yn-rhos, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'n addas ar gyfer gweithwyr sydd eisoes yn rheolwyr ym maes Adnoddau Dynol, neu sy'n dymuno bod yn rheolwyr yn y maes.

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau AD unigol mewn pynciau sy'n gysylltiedig ag adnoddau dynol cyfoes. Bydd y pwyslais ar y berthynas rhwng rheoli AD a strategaeth y sefydliad a'r modd y'i cyfunir â rheolaeth linell.

Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel ganolradd yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i fod yn aelod cyswllt proffesiynol newydd o'r CIPD. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais i gael eich asesu ar gyfer aelodaeth (asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle).

Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt newydd. Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi meithrin y cymwyseddau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i ddod yn rheolwr ym maes AD heddiw.

Byddwch hefyd wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg dysgwyr. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • Datblygu Ymarfer Proffesiynol
  • Materion Busnes a Chyd-destun Adnoddau Dynol
  • Defnyddio Gwybodaeth ym maes Adnoddau Dynol
  • Rheoli a Chydlynu Adnoddau Dynol
  • Canfod Talent a Chynllunio ar gyfer hynny
  • Rheoli ar sail Gwobrwyo
  • Cyfraith Cyflogi
  • Diwallu Anghenion Datblygu Sefydliad
  • Datblygu'r Hyfforddi a'r Mentora mewn Sefydliadau

Derbyniad nesaf ar gyfer y cwrs hwn yw mis Chwefror 2022

Gofynion mynediad

I gael eich derbyn ar y cwrs hwn, gorau oll os oes gennych Dystysgrif CIPD neu os ydych yn gweithio ym maes AD. Fodd bynnag, bydd arweinydd y cwrs yn ystyried pob cais ar sail teilyngdod. Bydd yn ofynnol i bawb sy'n cyflwyno cais ddod am gyfweliad ffurfiol.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o'r CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosib y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £165 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost) Mae hyn ar ben eich ffioedd cwrs.

Bydd gofyn hefyd i chi brynu sawl gwerslyfr craidd. Yn ystod y cwrs, cewch restri o ddeunyddiau darllen eraill a argymhellir.

Bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Diploma mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol. Yn ogystal â gwersi yn y dosbarth, bydd pedwar 'Diwrnod Sgiliau' lle cewch roi'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu yn y dosbarth ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn a meithrin eich sgiliau arwain a rheoli.

Asesiad

Asesir pob modiwl drwy gyfrwng aseiniadau. Bydd hefyd o leiaf un arholiad a osodir gan CIPD.

Dilyniant

Ymhlith y cyrsiau proffesiynol pellach y gallwch eu hastudio, mae Diploma Uwch CIPD mewn Rheoli ym maes Adnoddau Dynol, a gynigir yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

n/a

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth