Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tystysgrif mewn Marchnata Digidol Broffesiynol - Lefel 4 (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o Bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn academaidd. 1 diwrnod pob pythefnos.

    COST: £1250

Gwnewch gais
×

Tystysgrif mewn Marchnata Digidol Broffesiynol - Lefel 4 (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad)

Proffesiynol

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Byddwch yn gweithio fel swyddog marchnata iau mewn sefydliad neu swyddog marchnata mewn Busnes Bach a Chanolig

Erbyn diwedd y modiwl hwn byddwch yn gallu:

  • Deall sut i ddefnyddio adnoddau a thechnegau marchnata digidol
  • Asesu gwahanol gymwysiadau marchnata digidol
  • Deall sut i integreiddio marchnata digidol a marchnata all-lein
  • Deall sut i gynyddu ymgysylltiad y rhanddeiliaid
  • Deall sut i ddatblygu cynllun marchnata digidol
  • Defnyddio ac addasu dadansoddiadau marchnata digidol

Beth fyddwch yn dysgu:

Rydym yn cynnig y modiwlau canlynol:

Marchnata Cymhwysol - Byddwch yn edrych ar yr amgylchedd marchnata, ymddygiad cwsmeriaid yn yr oes ddigidol, ymchwil marchnad a'r broses o gynllunio gwaith marchnata. Bydd hyn yn cynnwys y cymysgedd marchnata a fframwaith cynllunio tactegol i helpu i wneud y marchnata'n fwy effeithiol.

Cynllunio Ymgyrchoedd - Yn y modiwl hwn byddwch yn meithrin sgiliau a gwybodaeth i roi ymgyrchoedd llwyddiannus ar waith a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eich sefydliad. Byddwch yn dysgu'r broses o ran cynllunio ymgyrchoedd yn cynnwys sut i ddadansoddi safle cyfredol unrhyw sefydliad. Byddwch hefyd yn dysgu sut i bennu amcanion ymgyrch, rhoi ymgyrch ar waith ac yna mesur a gwerthuso'i llwyddiant er mwyn sicrhau gwelliant parhaus ym maes cyfnewidiol marchnata.

Technegau Marchnata Digidol- Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y tirlun digidol. Byddwch yn meithrin sgiliau i allu gwella perfformiad o ran marchnata digidol ac yn edrych ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n bodoli yn yr amgylchedd digidol. Byddwch hefyd yn defnyddio ystod o adnoddau i gynllunio sut i wella effeithiolrwydd sefydliad mewn oes ddigidol.


Gofynion mynediad

I astudio'r cwrs Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol neu'r cwrs Tystysgrif mewn Technegau Marchnata Digidol, bydd angen o leiaf blwyddyn o brofiad arnoch yn y diwydiant neu gymhwyster lefel 3 perthnasol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn yr ystafell ddosbarth
  • Cefnogaeth Tiwtorial
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithwir)

Asesiad

Bydd gofyn cyflwyno aseiniad yn seiliedig ar thema a sefydliad penodol.

Dilyniant

  • Mynd ymlaen i wneud Diploma Broffesiynol mewn Marchnata gan gymryd bod gennych y profiad marchnata y mae gofyn amdano.
  • Addysg Uwch mewn prifysgol
  • Dechrau gyrfa farchnata ar eich liwt eich hun neu redeg eich busnes eich hun.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 4-6

Maes rhaglen:

  • Cyfrif Dysgu Personol
  • Busnes a Rheoli

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth