Tystysgrif Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
9-12 mis
Tystysgrif Lefel 3 mewn Cymorth Gofal Iechyd SylfaenolHyfforddiant rhan-amser
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer gweithwyr cymorth Gofal Iechyd Sylfaenol sy'n gweithio mewn meddygfeydd yng Nghymru, yn rhoi cymorth i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau meddygfeydd dan gyfarwyddyd ymarferydd proffesiynol cofrestredig, megis meddyg teulu neu nyrs gofrestredig. Mae'n gymhwyster craidd sy'n cydnabod y rolau a gyflawnir gan weithwyr cymorth sy'n gweithio
gydag unigolion mewn meddygfeydd.
I ymgymryd â'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gael eu cyflogi gan feddygon teulu mewn rolau lle mae sgiliau clinigol yn ganolog i'w rôl. Datblygwyd y cymhwyster i lywodraethu arfer yng Nghymru yn well trwy sicrhau ansawdd allanol ar gyfer y rôl ddatblygol hon sy'n ehangu.
Dyma’r cymhwyster a ffefrir ar gyfer GIG Cymru, a disgwylir y bydd pob gweithiwr cymorth mewn meddygfeydd yn cael y cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus i gefnogi newidiadau mewn ymarfer dros amser.
Tystysgrif
- Oriau dysgu dan arweiniad: 172 awr
- Cyfanswm yr amser cymhwyso ar gyfer y cymhwyster: 310 awr
Diploma
- Oriau dysgu dan arweiniad: 366 awr
- Cyfanswm yr amser cymhwyso ar gyfer y cymhwyster: 600 awr
Gofynion mynediad
Rhaid i'r dysgwyr:
- fod yn 18 oed o leiaf i wneud y cymhwyster hwn
- gael eu cyflogi mewn swydd lle mae sgiliau clinigol yn cynrychioli'r cyfan neu gyfran allweddol o'u gwaith
- feddu ar safon dda o addysg gyffredinol i lefel TGAU / Lefel O / Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru Lefel 2 / NVQ Lefel 2
- fod yn derbyn goruchwyliaeth gan Ymarferydd/wyr Proffesiynol Cofrestredig, sy'n medru asesu eu cynnydd
- fod wedi bodloni safonau isafswm y sector wrth gynefino yn y swydd. Gallai peth o hyn ddarparu tystiolaeth i'r cymhwyster hwn trwy gydnabod dysgu blaenorol.
Rhaid cael cyfweliad gan y tîm Dysgu Seiliedig ar Waith.
Cyflwyniad
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno ar sail un i un gydag asesydd dynodedig a fydd yn cyfarfod â'r dysgwr ac yn ei gefnogi'n rheolaidd.
Asesiad
Bydd y cwrs yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu sy'n berthnasol i anghenion y dysgwyr i gasglu tystiolaeth briodol a pherthnasol i fodloni gofynion a safonau'r cymhwyster.
Gall y rhain amrywio o aseiniadau, gwaith cwrs, cwestiynau ac atebion, trafodaethau proffesiynol a thystiolaeth gan dystion.
Dilyniant
- Bydd dysgwyr sy'n ennill y cymhwyster hwn yn gymwys i weithio mewn swyddi Gofal Iechyd Sylfaenol (Meddygfeydd) ar lefel sgiliau 3.
- Datblygwyd y cymhwyster hwn i roi mynediad i addysg a hyfforddiant Lefel 4 / Band 4 / Ymarferydd Cynorthwyol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Hyfforddiant rhan-amser
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau: