Busnes a Gweinyddiaeth

Cynlluniwyd ein cyrsiau busnes i feithrin y wybodaeth, yr hyder, y sgiliau rhyngbersonol a’r sgiliau ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan baratoi’r myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd ym maes busnes, gwasanaethau ariannol, marchnata, rheoli a’r sector cyhoeddus.

Yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, mae dros 20,000 o bobl yn cael eu cyflogi’n weinyddwyr swyddfeydd ac mae dros 48,000 yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid, yn manwerthu ac yn gwerthu.

Gan fod 98% o fusnesau Gogledd Cymru’n fentrau bach neu ganolig eu maint, mae meithrin sgiliau entrepreneuraidd yn elfen bwysig yn llawer o’n cyrsiau.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Gweinyddu Busnes
  • Astudiaethau Busnes
  • Sgiliau Darparu Gwasanaeth i Gwsmeriaid
  • Gweinyddu Meddygol
  • Sgiliau Swyddfa

Yn ogystal, drwy gydol y flwyddyn ceir cyfleoedd amrywiol i astudio’n rhan-amser drwy Busnes@LlandrilloMenai.

Roedd fy mhlant wedi tyfu ac yn byw eu bywydau eu hunain, felly roedd yr amser wedi dod i wneud rhywbeth er fy mwyn fy hun. Mi ges i flas mawr ar y cwrs, a gan fody tiwtoriaid mor gefnogol wnes i erioed amau na fyddwn i’n llwyddo. Rydw i’n gweithio i gwmni lleol erbyn hyn, ac yn llawn cyffro am y dyfodol.

Bonnie McFarlane - Busnes Lefel 2

Gyrfa mewn Busnes a Gweinyddiaeth


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Wyddoch chi?


Cyflog cyfartalog o £28,500...
...a bydd 36,273 swydd newydd erbyn 2024.


Prif gyfleoedd gyrfaol

  • Cyfrifwyr
  • Rheolwyr Adnoddau Dynol
  • Cyfarwyddwyr Marchnat
  • Rheolwyr Swyddfa