Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Almaeneg i Ddechreuwyr – Iaith a Diwylliant yr Almaen, Awstria a'r Swistir

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llyfrgell Bae Colwyn, Tŷ Cyfle - Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 awr yr wythnos am 10 wythnos (yn dibynnu ar y tymor)

    2 hours per week for 10 weeks (depending on the term)

Cofrestru
×

Almaeneg i Ddechreuwyr – Iaith a Diwylliant yr Almaen, Awstria a'r Swistir

Oedolion a Rhan-amser

Llyfrgell Bae Colwyn
Cwrs dydd: 28/04/26, 14:00 yh | Ffi dysgu:   £70.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £70.00
Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gofrestru!
Tŷ Cyfle - Bangor
Cwrs dydd: 15/05/26, 09:30 yb | Ffi dysgu:   £53.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £53.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn addas i fyfyrwyr sydd am ddysgu a meithrin sgiliau siarad Almaeneg er mwyn pleser.

Gall y cwrs gynnwys unrhyw un o'r canlynol ar lefel sy'n addas i'r dosbarth:
• Cyfarchion
• Cyflwyno'ch hun a'ch teulu
• Rhoi a gofyn am wybodaeth
• Rhoi a dilyn cyfarwyddiadau
• Trefniadau teithio
• Archebu ystafelloedd mewn gwesty
• Bywyd teulu
• Bwyta allan
• Siopa
• Gweithgareddau hamdden a chwaraeon
• Delio ag argyfyngau
• Moduro
• Sefyllfaoedd gwaith
• Defnyddio gramadeg

Gofynion mynediad

Diddordeb yn Yr Alamen a'i harferion/traddodiadau.

Cyflwyniad

Bydd y gwersi'n cael eu cynnal yn y dosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau dysgu. Bydd yna ymarferion ynganu, trafodaethau ar sail senarios go iawn, clipiau fideo, gwaith cyfieithu a sesiynau ymarfer siarad.

Asesiad

Byddwch yn cyflwyno portffolio o'ch gwaith er mwyn i'r tiwtor ei asesu. Gall gynnwys taflenni gwaith wedi'u llenwi, gwaith ysgrifenedig a recordiadau sain ohonoch yn ymarfer siarad.

Dilyniant

Cyrsiau Almaeneg lefel uwch

Cyrsiau mewn ieithoedd eraill

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Oedolion a Rhan-amser

Lefel: Cyn-mynediad, Mynediad 1, 2, 3 a Lefel 1 a 2

Maes rhaglen:

  • Ieithoedd

Ieithoedd

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Ieithoedd

Dau fyfyriwr yn gweithio yn y dosbarth