Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Technegau Harddu Arbenigol – Trin y Dwylo a'r Traed Lefel 2 (tystysgrif VTCT)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    34 wythnos (3 awr yr wythnos - dyddiau Mercher)

Cofrestrwch
×

Technegau Harddu Arbenigol – Trin y Dwylo a'r Traed Lefel 2 (tystysgrif VTCT)

Cyrsiau Rhan-amser

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar y cwrs hwn, cewch gyfle i feithrin sgiliau ym maes therapi harddwch, gan osod sylfaen ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd gwaith mewn diwydiant sy'n canolbwyntio ar helpu pobl i edrych a theimlo ar eu gorau.

Byddwch yn astudio:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion
  • Triniaethau dwylo
  • Triniaethau traed

Gwneir y gwaith ymarferol yn salonau harddwch pwrpasol y Grŵp, gan roi triniaethau am dâl i gleientiaid mewn amgylchedd gweithio realistig.

Gofynion mynediad

  • Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Darlithoedd
  • Gwaith grŵp
  • Sesiynau ymarferol

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arsylwi
  • Asesiadau ymarferol
  • Profion ysgrifenedig ac ar lafar

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o gyrsiau Therapi Harddwch Lefel 3 yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • Sba
  • Llwybr cyffredinol
  • Harddwch a Cholur

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Rhan-amser

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

n/a

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch