Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Lefel A/AS mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Lefel A/AS mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Wyt ti'n gwneud cais am fwy nag un pwnc Safon Uwch? Gelli di wneud cais o'r dudalen hon a bydd cyfle i ti ychwanegu pynciau Safon Uwch eraill ar ddiwedd y broses ymgeisio.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd yr unedau y byddwch yn eu hastudio yn eich helpu i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth, sgiliau a'ch dealltwriaeth o fewn cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant drwy:

  • hyrwyddo iechyd a lles
  • cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru
  • cynnig persbectifau damcaniaethol o ddatblygiad plant a phobl ifanc
  • cynnig persbectif damcaniaethol i ymddygiad oedolion; cefnogi oedolion i gynnal iechyd, lles a gwytnwch.

Dysgwyr sydd â diddordeb mewn dysgu am ddatblygiad a gofal unigolion drwy gydol y cyfnod o'r dyddiau cyntaf hyd at oedolaeth.

  • AS Uned 1: hyrwyddo iechyd a lles - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr
  • AS Uned 2: Cefnogi iechyd, lles a gwytnwch yng Nghymru - Asesiad heb arholiad: oddeutu 30 awr
  • A2 Uned 5: Persbectifau damcaniaethol o ymddygiad oedolion - Arholiad ysgrifenedig: 2 awr 30 munud
  • A2 Uned 6: Cefnogi oedolion i gynnal iechyd, lles a gwytnwch - Asesiad heb arholiad: oddeutu 40 awr

Gofynion mynediad

6 TGAU gradd A* - C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad ble cewch gyfle i drafod y cwrs.

Mae dilyniant i Lefel A yn ddibynnol ar eich perfformiad yn eich arholiadau AS.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp

  • Dysgu yn y dosbarth

  • Cefnogaeth tiwtor

  • Ymweliadau addysgol

  • Google classroom (amgylchedd dysgu rhithwir)

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol (CSH) a/neu

  • ail-sefyll TGAU a/neu

  • Bagloriaeth Cymru

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Mae'r cwrs wedi ei rannu yn 4 modiwl: Dwy uned AS a dwy uned A2: dwy uned a dwy uned A2 yn berthnasol i'r llwybr a ddewiswyd. 50% asesiad mewnol a 50% asesiad allanol.

Dilyniant

Symud ymlaen i waith ar lefel hyfforddai o fewn amgylchedd iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mynd ymlaen i ddilyn cymwysterau pellach mewn amrywiaeth o gyrsiau ar lefel HND neu radd ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a phynciau yn ymwneud â gofal plant fel bydwreigiaeth.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Lefel AS/A

Lefel AS/A