Prentisiaeth - Gwaith Coed Lefel 2
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Prentisiaeth - Gwaith Coed Lefel 2Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae prentisiaeth sylfaen mewn Gwaith Coed yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n gyflogedig gan gwmni gwaith coed neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos.
Fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i Brentisiaid ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o waith coed. Byddant hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion y gweithle adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.
Bydd y cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr gynllunio a chwblhau prosiectau gwaith coed ar y safle, yn unol â safonau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, cyn adolygu allbynnau eu gwaith.
Mae'n cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth am
- l weithio yn y sector adeiladu
- l deddfwriaeth berthnasol
- l gwaith saer ar safle
a sgiliau
- l dehongli gwybodaeth, dewis a defnyddio adnoddau
- l meithrin arferion gwaith diogel, iach ac sy'n ystyried yr amgylchedd
- l gosod cydrannau'r 'first fix'
- l gosod cydrannau'r 'second fix'
- l codi cydrannau strwythurau sgerbwd.
Bydd y cymhwyster hwn, ynghyd â chadarnhad gan gyflogwr, yn galluogi dysgwyr i brofi eu hunain yn gymwys yn alwedigaethol ar Lefel 2.
Gofynion mynediad
- Isafswm o ddau TGAU gradd A* i G mewn Cymraeg neu Saesneg, a Mathemateg.
- Cyflogwr sy'n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Cyflwyniad
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, sy'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
- Ymweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith
- Trafodaethau
- Arddangosiadau
- Sesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp
- Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Asesiad ar-lein (sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall dysgwyr fynd yn ôl a blaen rhwng y ddwy iaith yn ystod y prawf ar-lein)
- Asesiadau Seiliedig ar Waith
- Prawf synoptig, ymarferol
- Trafodaeth broffesiynol
- Prosiect Terfynol
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig