Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gosod Briciau Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    24 mis

Cofrestru
×

Prentisiaeth - Gosod Briciau Lefel 2

Prentisiaethau

I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.

Ffurflen ymholi am brentisiaeth

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae prentisiaeth sylfaen mewn Gosod Briciau yn gwrs 2 flynedd lle rydych chi'n gyflogedig gan gwmni gosod briciau neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos.

Fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i Brentisiaid ddysgu a datblygu eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u dealltwriaeth o osod briciau. Byddant hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth o arferion y gweithle adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd ac ystyriaethau amgylcheddol.

Bydd y cymhwyster yn caniatáu i ddysgwyr gynllunio a chwblhau prosiectau gosod briciau ar y safle, yn unol â safonau galwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol, cyn adolygu allbynnau eu gwaith.

Mae'n cwmpasu gwybodaeth a dealltwriaeth o

  • weithio yn y sector adeiladu
  • deddfwriaeth berthnasol
  • l ⁠gosod briciau

a sgiliau

  • dehongli gwybodaeth, dewis a defnyddio adnoddau
  • meithrin arferion gwaith diogel, iach ac sy'n ystyried yr amgylchedd
  • gosod strwythurau cerrig
  • codi strwythurau cerrig
  • l codi cladin cerrig

Bydd y cymhwyster hwn, ynghyd â chadarnhad gan gyflogwr, yn galluogi dysgwyr i brofi eu hunain yn gymwys yn alwedigaethol ar Lefel 2.

Gofynion mynediad

  • Isafswm o ddau TGAU gradd A* i G mewn Cymraeg neu Saesneg, a Mathemateg.
  • Cyflogwr sy'n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.

Cyflwyniad

Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, sy'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
  • Ymweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Trafodaethau
  • Arddangosiadau
  • Sesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp
  • Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf
  • Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o gymwysterau Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol, os oes angen.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Asesiad ar-lein (sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall dysgwyr fynd yn ôl a blaen rhwng y ddwy iaith yn ystod y prawf ar-lein)
  • Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Prawf synoptig, ymarferol
  • Trafodaeth broffesiynol
  • Prosiect Terfynol

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 ac yna i Brentisiaeth Uwch Lefel 4.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dysgwyr yn sicrhau fod y wal frics yn lefel