Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Cymdeithasol)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn (16 awr yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Gwyddorau Cymdeithasol)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi ar gyfer astudio pwnc sy'n ymwneud â'r gwyddorau cymdeithasol? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs addysg uwch, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Seicoleg, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith a phynciau eraill.

Nod y Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan newydd yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • TGAU Gradd C neu cyfateb mewn Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf, TGAU Gradd D neu cyfateb mewn Mathemateg neu Rhifedd, yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Noder:

  • Mae tipyn o gystadlu am le ar gyrsiau gwaith cymdeithasol a bydd gofyn i chi ddangos eich bod yn deall yn iawn beth mae'r swydd yn ei olygu. Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i chi gael profiad diweddar a pherthnasol (profiad fel gweithiwr cyflog neu wirfoddol, neu brofiad personol) ac mewn rhai achosion, mae gofyn cael o leiaf chwe mis o brofiad.
  • Bydd gofyn i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y cewch weithio ym maes gwaith cymdeithasol. Os ydych yn pryderu y gall rhywbeth yn eich gorffennol effeithio ar eich cymhwysedd, cysylltwch â'r darparwr Addysg Uwch perthnasol i gael arweiniad.
  • Yn wyneb y gystadleuaeth gynyddol am le ar gyrsiau gwaith cymdeithasol, mae'n bosibl y cynghorir chi i gofrestru ar y cwrs Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar y cwrs Mynediad.

Cyflwyniad

Cynlluniwyd Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch i'ch helpu i ddychwelyd i astudio ar ôl cyfnod o amser. Felly, bydd y sesiynau'n rhai cyfranogol a gynhelir mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r tiwtoriaid, gan ddysgu drwy gyfrwng gwersi ffurfiol yn ogystal â thrafodaethau, arddangosiadau a gwaith prosiect.

Asesiad

Cewch eich asesu fel a ganlyn:

  • Gosodir tasgau gwahanol ar gyfer pob uned ac fe'ch asesir drwy gyfrwng y rhain yn ystod y cwrs
  • Bydd eich tiwtor yn eich helpu ac yn eich paratoi'n ddigonol
  • Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau, adroddiadau, tasgau ymarferol, gwerthuso rolau, a chyflwyniadau.
  • Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol.

Bydd y rhaglen ddysgu'n cynnwys pynciau fel Technoleg Gwybodaeth a modiwl 'Edrych Ymlaen at Addysg Uwch' Lefel 4.

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch yma yng Ngholeg Llandrillo neu mewn sefydliad arall.

Cewch ddewis o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau gradd mewn Seicoleg, Cymdeithaseg, Gwleidyddiaeth, Y Gyfraith, Troseddeg a phynciau eraill.

Dewis arall fyddai gweithio i'r gwasanaeth prawf, gweithio i adran gwasanaethau cymdeithasol, bod yn athro neu weithio mewn maes arall.

Gwybodaeth campws Bangor

Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) Gwybodaeth am y cwrs a rhagofynion Mae'r cwrs Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) yn cael ei gynnal am 3 diwrnod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r dosbarthiadau'n cael eu cynnal rhwng 9.15am a 4pm a disgwylir i ddysgwyr ddod i'r holl sesiynau. Caiff presenoldeb a phrydlondeb eu monitro'n ofalus yn ystod wythnosau cyntaf y cwrs.

Mae'r cwrs wedi'i anelu at oedolion sy'n dychwelyd i ddysgu ac sy'n awyddus i fynd ymlaen i Brifysgol. Fel arfer, ni chaiff dysgwyr sydd newydd adael yr ysgol neu gwrs Lefel 2 neu 3 arall eu derbyn.

I gael lle ar y cwrs, mae'n ofynnol i ddysgwyr ddangos gallu lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU Gradd C), ond cyn gwneud cais i brifysgol, mae'n bosib y bydd yr NMC (Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) yn gofyn i ddysgwyr fod â TGAU mewn Saesneg a Mathemateg. Os nad oes ganddynt broffil Lefel 2, mae'n bosib y caiff dysgwyr eu cynghori i gwblhau cymhwyster Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach cyn dechrau ar gwrs Mynediad. Oherwydd bod cryn gystadleuaeth i gael lle ar gyrsiau nyrsio, bydwreigiaeth ac ati a bod angen i ddysgwyr wneud eu ceisiadau'n fuan ar ôl dechrau ar y cwrs Mynediad, cewch eich cynghori i gael profiad sylweddol mewn lleoliad gofal (fel gweithiwr cyflogedig neu wirfoddolwr) cyn dechrau ar y cwrs Mynediad i AU.

Pynciau sy'n cael eu hastudio

Mae Sgiliau Astudio, Rhifedd a Llythrennedd yn rhan greiddiol o'r Diploma Mynediad i AU a rhaid llwyddo yn y pynciau hyn, yn ogystal â chael gwybodaeth sylfaenol o TG ar gyfer Addysg Uwch.

Yn ogystal, rhaid i ddysgwyr lwyddo i gael 45 credyd Lefel 3 mewn tri phwnc academaidd sy'n cael eu graddio ar lefel Llwyddo, Teilyngdod a Rhagoriaeth.

Er enghraifft, gallai cynnig arferol gan Brifysgol ofyn am 30 credyd ar lefel Teilyngdod a 15 ar lefel Rhagoriaeth.

Y pynciau academaidd sy'n cael eu hastudio ar y Llwybr Mynediad i AU (Gwyddorau Cymdeithasol) yw:

  • Cymdeithaseg
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Seicoleg

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Mynediad i Addysg Uwch

Dwyieithog:

n/a

Mynediad i Addysg Uwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Mynediad i Addysg Uwch

Dysgwr addysg uwch yn astudio