Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Wyt ti am wireddu dy botensial llawn a rhoi hwb i dy yrfa?

Gall WorldSkills UK dy helpu i droi dy angerdd at sgiliau technegol, technoleg ddigidol neu grefft broffesiynol yn yrfa o safon fyd-eang. Drwy gymryd rhan yng nghystadlaethau WorldSkills, byddi yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwyr, yn magu hyder ac yn rhoi hwb sylweddol i dy CV.

P'un a wyt yn fyfyriwr neu'n brentis, bydd WorldSkills UK yn rhoi'r offer, y rhwydwaith a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnat i sefyll allan i gyflogwyr o'r radd flaenaf ac i gyflawni dy nodau gyrfa.

Mae'r cofrestru yn agor bob mis Mawrth ac mae'r rowndiau rhagbrofol yn cael eu cynnal cyn yr haf. Siarada gyda dy diwtor am ragor o wybodaeth neu cer i wefan WorldSkills UK.

Logo Word Skill UK

Newyddion diweddaraf    /    Gweld holl newyddion

Prentis RWE, Madeleine, gyda'i medal

Dysgwyr o Grŵp Llandrillo Menai yn Cynrychioli Team UK yn WorldSkills Shanghai 2026

Talodd y gwaith caled a’r ymroddiad dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ei ganfed wrth i Madeleine, Peter a Yuliia gystadlu yn erbyn rhai o’r gweithwyr proffesiynol ifanc gorau o bob cwr o’r byd.

Dewch i wybod mwy
Mae Yuliia, Madeleine a Peter yn mynychu cinio WorldSkills.

Myfyrwyr Talentog Grŵp Llandrillo Menai yn Cynrychioli Team UK yn WorldSkills Shanghai 2026

Yr wythnos hon, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn cefnogi tri myfyriwr talentog a dau aelod o staff ymroddedig sy'n cynrychioli Tîm UK yng nghystadleuaeth fawreddog WorldSkills Shanghai.

Dewch i wybod mwy
Mae Osian yn gweithio yn yr ystafell beirianneg.

O Fedal Aur WorldSkills i addysgu peirianwyr y dyfodol: dewch i gwrdd ag Osian Roberts, Darlithydd Peirianneg yng Ngholeg Menai

Mae Osian Roberts, cyn-brentis o Goleg Menai, wedi gwneud cylch llawn. Ar ôl mireinio ei sgiliau yn y diwydiant ac ennill cystadleuaeth genedlaethol, mae bellach yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr ar gampws y Coleg yn Llangefni.

Dewch i wybod mwy