Cwrs Ymwybyddiaeth PAS 2030 – Trosolwg Hanner Diwrnod
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
 - Dull astudio:Part-time
 - Hyd:
3.5 awr (hanner diwrnod)
 
Cwrs Ymwybyddiaeth PAS 2030 – Trosolwg Hanner DiwrnodShort Course
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs ymwybyddiaeth hanner diwrnod hwn yn cyflwyno egwyddorion a gofynion hanfodol PAS 2030, sef y Fanyleb sydd ar gael yn Gyhoeddus (Publicly Available Specification) sy'n nodi'r safon i osodwyr mesurau effeithlonrwydd ynni ym maes ôl-osod domestig.
Wedi'i dargedu at osodwyr, contractwyr, swyddogion cydymffurfio a rheolwyr safle, mae'r cwrs yn cwmpasu'r sgôp, y cyfrifoldebau a'r disgwyliadau cydymffurfio o dan PAS 2030 — gan gynnwys sut mae'n cyd-fynd law yn llaw â PAS 2035, TrustMark a chynlluniau fel ECO4, GBIS a SHDF.
P'un ai ydych chi'n paratoi ar gyfer ardystiad, yn rheoli timau ôl-osod, neu'n cefnogi sicrhau ansawdd, mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gadarn yn yr hyn y mae PAS 2030 yn ei fynnu mewn gosodiadau yn y byd go iawn.
Trosolwg o'r Agenda:
09:00 – 09:15 | Croeso a Chyflwyniadau
- Nodau a disgwyliadau'r cwrs 
 - Trosolwg o gyd-destun polisi ôl-osod
 
09:15 - 10:00 | Deall PAS 2030
- Beth yw PAS 2030 ac i bwy mae'n berthnasol?
 - Hanes ac esblygiad y safon
 - Ardystiad, mesurau, a sgôp y gosodwr
 - Ei swyddogaeth mewn cynlluniau ôl-osod a ariennir
 
10:00 – 10:30 | Gofynion Allweddol y Gosodwr
- Cymhwysedd, rheoli prosesau, a safonau
 - Trosglwyddo, comisiynu a gofalu am gwsmeriaid
 - Disgwyliadau iechyd a diogelwch
 
10:30 – 10:45 | Egwyl
10:45 – 11:30 | PAS 2030 a'r Fframwaith Safonau Ôl-osod
- Sut mae PAS 2030 a PAS 2035 yn rhyngweithio
 - Rôl Cydlynwyr Ôl-osod
 - Egwyddorion tŷ cyfan, ffabrig yn gyntaf
 - Gofynion TrustMark
 
11:30 – 12:00 | Cydymffurfiaeth, Dogfennau a Sesiwn Holi ac Ateb
- Tystiolaeth a dogfennau ar gyfer archwiliadau
 - Problemau cyffredin a'r gwersi a ddysgwyd
 - Trafodaeth agored a chasgliad
 
Deunyddiau sy'n rhan o'r cwrs:
- Pecyn Sleidiau (PDF)
 - Taflen sy'n crynhoi PAS 2030 i Osodwyr 
 - Templed ar gyfer Rhestr Wirio Cydymffurfiaeth
 - Dolenni i ganllawiau swyddogol (BSI, TrustMark, BEIS)
 
Gofynion mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol  ar gyfer y cwrs hwn.
Mae wedi'i gynllunio ar gyfer:
- Gosodwyr mesurau effeithlonrwydd ynni
 - Contractwyr ôl-osod a swyddogion cydymffurfio
 - Rheolwyr safle a goruchwylwyr technegol
 - Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar gynlluniau a ariennir fel ECO4, GBIS neu SHDF
 
Dylai cyfranogwyr fod yn gyfarwydd ag amgylcheddau adeiladau neu ôl-osod domestig.
Cyflwyniad
Cyflwynir y cwrs dros 3.5 awr (hanner diwrnod) ac mae'n cynnwys: 
- Cyflwyniadau dan arweiniad tiwtor a thrafodaethau grŵp
 - Sesiynau holi ac ateb gydag enghreifftiau cydymffurfio o'r byd go iawn
 
Deunyddiau cyfeirio i'w defnyddio ar ôl y cwrs
Asesiad
Nid oes asesu ffurfiol. 
Anogir dysgwyr i gymryd rhan weithredol drwy gydol y cwrs.
Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.
Dilyniant
Mae'r cwrs hwn yn gam cyntaf ardderchog tuag at:
- Gyflawni ardystiad PAS 2030
 - Astudio pellach ym maes PAS 2035, cydgysylltu ôl-osod neu reoli ansawdd
 - Hyfforddiant technegol mewn gosod technolegau effeithlonrwydd ynni
 
Rolau ategol mewn rhaglen ôl-osod domestig a ariennir
