Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      Mae hyfforddiant undydd ar gael ar gyfer y cymhwyster OFTEC 600A.

      Dylid caniatáu diwrnod ychwanegol i wneud a chwblhau'r asesiad OFTEC 600A.

    Cofrestru
    ×

    OFT600A

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Unrhyw weithredwyr profiadol ym maes olew, neu weithredwyr sydd ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi sy'n dymuno gwneud gwaith comisiynu neu wasanaethu systemau olew jet pwysedd. (SYLWCH: Bydd angen cyflwyno tystiolaeth o gymwysterau blaenorol ar ddechrau'r cwrs.)

    Dylai unrhyw un sy'n newydd i'r diwydiant olew ystyried dilyn ein cwrs OFTEC 50 - Cyflwyniad i'r sector olew - ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

    Cynnwys y Cwrs:

    • Gofynion diogelwch
    • Rheoliadau Adeiladu
    • Mathau o olew a sut i'w hadnabod
    • Storio olew mewn dur a thermoplastig
    • Pibellau darparu cyflenwad tanwydd
    • Mesuryddion a larymau gorlenwi
    • Problemau halogiad olew
    • Safonau Prydain
    • Cynnal asesiad risg tanc olew

    Gofynion mynediad

    Rhaid i'r sawl sydd am ddilyn y cwrs hwn fod un ai'n weithwyr profiadol ym maes olew, neu fod ar gofrestr GAS SAFE o weithredwyr systemau gwresogi. (SYLWCH: Bydd angen cyflwyno tystiolaeth o gymwysterau blaenorol ar ddechrau'r cwrs.)

    Dylai unrhyw un sy'n newydd i'r diwydiant olew ystyried dilyn ein cwrs OFTEC 50 - Cyflwyniad i'r sector olew - ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

    Cyflwyniad

    Gweithdy ymarferol a gwaith cwrs theory.

    Asesiad

    Asesiad o waith ymarferol a phapur o gwestiynau aml-ddewis.

    Dilyniant

    Bydd y dysgwyr sy'n cwblhau'r asesiad yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i ymuno â chynllun Unigolion Cymwys OFTEC.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom