Triniwr Telesgopig Llwythi Crog NPORS (N138)

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      2 ddiwrnod dros 1 wythnos


    Cofrestru
    ×

    Triniwr Telesgopig Llwythi Crog NPORS (N138)

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae grantiau CITB ar gael i gwmnïau cofrestredig sy'n talu ardoll i'r CITB. ⁠Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

    Darparu gwybodaeth a dealltwriaeth o'r meysydd canlynol:

    • Dealltwriaeth sylfaenol o'r diwydiant, peryglon gweithio yn y diwydiant a chyfrifoldebau gweithredwyr
    • Gallu cydymffurfio â gofynion y gwneuthurwr yn unol â data technegol, cydymffurfio â rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol
    • Gallu lleoli, nodi ac esbonio llwythi gweithio diogel, siart capasiti codi ac egluro sut y gall y gwneuthurwr leihau'r capasiti codi wrth symud llwyth crog, gwahanol gyfluniadau codi ac ystodau gweithio
    • Nodi ac esbonio gwahanol weithdrefnau codi, esbonio pa dasg a allai ddisgyn i bob categori
    • Nodi ac egluro craidd disgyrchiant a chyfrifo amcangyfrif o bwysau llwythi
    • Nodi unrhyw beryglon uwchben / gerllaw
    • Gallu cytuno ar godau signal / signalau llaw, cyfeiriad symud, gweithio diogel a lleoliad glanio diogel gyda'r taflwr / signalwr
    • Sicrhau fod y triniwr telesgopig mewn cyflwr diogel a bod yr atodiadau wedi'u gosod yn gywir
    • Gwirio cywirdeb a diogelwch y llwyth
    • Gallu codi a symud llwyth i safle dynodedig mewn modd diogel a rheoledig, gan sicrhau cyn lleied o symudiadau afreolus â phosibl
    • Ystyriaethau amgylcheddol

    Cyflawni'r holl weithdrefnau cau i lawr a diogelu

    Gofynion mynediad

    • Wedi cwblhau prawf Sgrin Gyffwrdd CSCS yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
    • Mae trwydded yrru'n ddymunol ond nid yn hanfodol.
    • Dealltwriaeth dda o Saesneg llafar ac ysgrifenedig

    Cyflwyniad

    • Cyflwyniadau yn yr ystafell ddosbarth
    • Arddangosiadau ymarferol
    • Ymarfer o dan oruchwyliaeth tiwtor.

    Asesiad

    • Asesiad ymarferol
    • Arholiad theori.

    Dilyniant

    Cyrsiau hyfforddi eraill ym maes peiriannau trwm ac adeiladu a fyddai'n galluogi'r dysgwyr i weithio ac ehangu eu sgiliau yn y diwydiant adeiladu.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom