ISEP Llwybrau i Net Sero

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Remote Learning CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      2 ddiwrnod.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs Tuag at Sero Net yn cynnig canllawiau clir a chyson ar yr arferion gorau i'w dilyn wrth ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae'n rhoi trosolwg strategol a gweithredol o gynaliadwyedd amgylcheddol i oruchwylwyr ac arweinwyr, yn benodol yng nghyd-destun eu diwydiant neu faes gwaith. Bydd y dysgwyr yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddatblygu, cefnogi, neu drosglwyddo strategaeth sero net yn eu sefydliad.

    Mae'r deilliannau dysgu'n cynnwys:
    • Diffiniadau: sero net a thermau cysylltiedig;
    • Gwyddoniaeth sylfaenol yr hinsawdd a'r brys i weithredu;
    • Cyd-destun polisïau’r Deyrnas Unedig a pholisïau rhyngwladol;
    • Y risgiau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â sero net (yn cynnwys hyfywedd ac enw da busnesau a materion yn gysylltiedig â'r gadwyn gyflenwi);
    • Egwyddorion cyfrifo a chofnodi nwyon tŷ gwydr, yn cynnwys cwmpasau 1-3;
    • Gosod targedau ar sail y wyddoniaeth;
    • Datblygu cynllun datgarboneiddio sy'n cynnwys targedau/cerrig milltir tymor byr a hir;
    • Deall sut i leihau allyriadau sy'n cael eu dylanwadu ond ddim yn cael eu rheoli'n uniongyrchol (Cwmpas 3);
    • Cyfathrebu'n allanol am faterion sero net, gwneud hawliadau gwyrdd cadarn.

    Mae'r cwrs yn cynnwys oriau dysgu dan arweiniad, gan roi cyfle i'r cyfranogwyr ymgyfarwyddo â theori ac agweddau ymarferol.

    Gofynion mynediad

    Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
    Yn ddelfrydol bydd y cyfranogwyr mewn swyddi sy'n rhoi cyfle iddynt ymwneud yn agos â'r pynciau a drafodir (e.e. swyddi sy'n ymwneud â strategaethau sero net, lleihau carbon, cyfrifoldebau amgylcheddol/cynaliadwyedd).

    Cyflwyniad

    Hyd: 2 ddiwrnod

    Dosbarthiadau neu ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)

    Asesiad

    Asesir drwy brawf amlddewis ar-lein sy'n cynnwys 20 cwestiwn.

    Sefir y prawf drwy borth asesu ISEP; bydd yr ymgeiswyr yn cael dolen i'r prawf wedi iddynt gofrestru.

    Dilyniant

    Bydd cwblhau'r cwrs yn rhoi dealltwriaeth gyffredinol i'r dysgwyr o strategaethau sero net a sut i'w rhoi ar waith. Gall hyn eu cefnogi mewn swyddi sy'n ymwneud ag arwain strategaethau hinsawdd, cynlluniau datgarboneiddio, neu gynaliadwyedd mewn sefydliadau.

    Gall y cwrs fod yn gam tuag at gymwysterau neu achrediadau uwch ym maes rheoli'r amgylchedd neu arweinyddiaeth sero net.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom