ISEP – Cyflwyniad i Sero Net

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      Remote Learning CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      Tua dwy o oriau dysgu dan arweiniad.

    Cofrestru
    ×

    ISEP – Cyflwyniad i Sero Net

    Short Course

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs Cyflwyniad i Sero Net yn rhoi trosolwg cryno o ystyr “sero net” fel ymateb i'r argyfwng hinsawdd, a sut y gellir ei gyflawni mewn sefydliadau. Delfrydol ar gyfer codi ymwybyddiaeth staff sydd angen dealltwriaeth sylfaenol yn gyflym.

    Mae pedwar rhan iddo:

    Beth yw ystyr sero net?

    Pam sero net?

    Beth all fy sefydliad ei wneud?

    Sut i rannu gwybodaeth am sero net mewn ffordd nad yw'n gwyrddgalchu.

    Mae'r deilliannau dysgu'n cynnwys:
    • Deall ystyr “sero net” a thermau cysylltiedig.
    • Y wyddoniaeth sylfaenol sy'n gyrru'r agenda sero net a pham fod angen gweithredu ar frys.
    • Cyd-destun prif bolisïau’r Deyrnas Unedig a pholisïau rhyngwladol.
    • Deall manteision amgylcheddol a manteision busnes sero net; amlinellu dulliau sero net effeithiol.
    • Deall sut i rannu gwybodaeth am sero net mewn ffordd nad yw'n gwyrddgalchu.

    Cwrs byr – delfrydol ar gyfer codi ymwybyddiaeth staff sydd angen dealltwriaeth sylfaenol yn gyflym.

    Ardystir y cwrs gan ISEP.

    Dyddiadau Cwrs

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
    20/11/202508:45 Dydd Iau5.001 £1000 / 10D0025465

    CIST-Llangefni

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostArchebionCod
    16/12/2025 Dydd Mawrth0.000 £1000 / 10D0025466

    Gofynion mynediad

    Nid oes asesu ffurfiol ar y cwrs hwn.

    Mae'r cwrs yn addas i bobl mewn pob swydd a sector, yn enwedig y rhai sydd am gael dealltwriaeth sylfaenol o sero net a'r rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau sy'n cychwyn ar eu taith tuag at sero net.

    Cyflwyniad

    Hyd: tua dwy o oriau dysgu dan arweiniad.
    Dosbarthiadau ar-lein o bell (dan arweiniad Tiwtor)
    Dysgu yn y dosbarth

    Asesiad

    Nid oes asesu ffurfiol ar y cwrs hwn.

    Ar ôl cwblhau'r cwrs bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif (neu brawf arall o bresenoldeb/cwblhad).

    Dilyniant

    Ar ôl cwblhau'r cwrs, efallai y bydd dysgwyr am fynd ymlaen i wneud cymwysterau uwch sy'n trafod sero net yn fwy manwl.

    Ymhlith y dewisiadau mae cyrsiau fel ISEP - Tuag at Sero Net neu'r Dystysgrif Sylfaen mewn Rheoli'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom