Cyflwyniad i Integreiddio Paneli Solar Ffotofoltäig, Systemau Batris Storio a Cherbydau Trydan

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
  • Dull astudio:
    Part-time
  • Hyd:

    1 diwrnod (tua 6-7 awr)

Cofrestrwch
×

Cyflwyniad i Integreiddio Paneli Solar Ffotofoltäig, Systemau Batris Storio a Cherbydau Trydan

Short Course

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs cyflwyniadol undydd hwn yn cynnig trosolwg ymarferol o Baneli Solar Ffotofoltäig, Systemau Batris Storio, a systemau gwefru cerbydau trydan — gan ganolbwyntio ar sut y gall y technolegau hyn gydweithio i ffurfio systemau ynni carbon isel, effeithlon, clyfar ar gyfer cartrefi a busnesau bach.

Bydd dysgwyr yn edrych ar bob system yn unigol, ac yna'n ystyried sut y gall gosodiadau integredig helpu i leihau costau ynni, defnyddio'r ynni a gynhyrchir i'r eithaf, a chefnogi'r newid i ynni glanach. Mae'r cwrs yn cynnwys enghreifftiau o'r byd go iawn, trafod senarios a sesiynau dan arweiniad arbenigwyr gan ddefnyddio cyflwyniadau gweledol a rhyngweithio fel grŵp.

Mae'r cwrs yn berffaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid i'r sector ynni adnewyddadwy. Mae'r cwrs hwn yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol ar gyfer hyfforddiant technegol pellach mewn gosod technoleg solar, dylunio trydanol neu integreiddio systemau ynni.

Pynciau dan sylw:

Pwnc

Key Learning Outcomes

Hanfodion Paneli Solar Ffotofoltäig

Sut mae paneli solar yn cynhyrchu trydan a sut mae gosod y systemau hyn

Storio mewn batris

Sut mae batris yn storio ynni solar ac yn rheoli'r galw

Gwefru Cerbydau Trydan

Sut mae gwefrwyr yn gweithio, ystyriaethau wrth eu gosod a'r mathau o systemau

Integreiddio Systemau

Sut y gall paneli solar, batris, a cherbydau trydan weithio gyda'i gilydd i arbed ynni a lleihau costau

Enghreifftiau Ymarferol

Achosion o'r byd go iawn a'r canlyniadau arbed ynni

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. ⁠ ⁠

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:

  • Unigolion sy'n newydd i faes ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel
  • Adeiladwyr, crefftwyr a thrydanwyr sy'n ymchwilio i farchnadoedd newydd
  • Perchnogion tai neu berchnogion busnesau sy'n ystyried technoleg solar, batris storio neu gerbydau trydan
  • Myfyrwyr neu unigolion sy'n newid gyrfa sydd â diddordeb yn y sector ynni gwyrdd

Dylai'r dysgwyr feddu ar:

  • Ddiddordeb cyffredinol mewn datrysiadau ynni cynaliadwy.
  • Parodrwydd i gymryd rhan mewn trafodaethau a dysgu gweledol.

Cyflwyniad

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno dros un diwrnod (tua 6-7 awr) ac mae'n cynnwys:

  • Cyflwyniadau gan diwtor gydag arddangosiadau gweledol
  • Trafodaethau grŵp a sesiynau holi ac ateb
  • Astudiaethau achos o systemau'r byd go iawn
  • Trosolwg o'r cydrannau, ymarferoldeb ac egwyddorion dylunio'r systemau

Asesiad

Cwrs cyflwyniadol nad yw'n cael ei asesu yw hwn.
Mae'r asesu'n anffurfiol ac yn seiliedig ar gyfranogiad ac ymgysylltiad.

Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.

Dilyniant

Mae'r cwrs hwn yn fan cychwyn ardderchog i'r rhai sy'n bwriadu dilyn:

  • Hyfforddiant i osodwyr neu ddylunwyr gosod paneli solar neu fatris storio

  • Cyrsiau pellach mewn Gwefru Cerbydau Trydan, systemau trydanol, neu ynni adnewyddadwy

  • Cymwysterau sy'n cyd-fynd â'r Microgeneration Certification Scheme (MCS), NICEIC neu gynlluniau ôl-osod domestig.

Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



Anfonwch neges atom