Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      3.5 awr (hanner diwrnod)

    Cofrestru
    ×

    Cyflwyniad i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a Chyrff Ardystio – Cwrs Ymwybyddiaeth

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs ymwybyddiaeth hanner diwrnod hwn yn rhoi cyflwyniad clir a hygyrch i'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a rôl cyrff ardystio yn sector ynni adnewyddadwy a charbon isel y Deyrnas Unedig.

    Wedi'i gynllunio ar gyfer gosodwyr, contractwyr a rheolwyr prosiect — yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar gynlluniau fel y Cynllun Uwchraddio Boeleri (BUS), Gwarant Allforio Clyfar (SEG) neu ECO4 — mae'r cwrs yn egluro sut mae MCS yn sail i sicrhau ansawdd, diogelu defnyddwyr a chydymffurfio rheoleiddiol.

    Bydd dysgwyr yn archwilio'r broses ardystio, y llwybrau ar gyfer technolegau penodol a sut mae MCS yn cysylltu â fframweithiau eraill fel TrustMark, safonau PAS a'r Cynlluniau Personau Cymwys (CPS).

    P'un ai ydych chi'n paratoi ar gyfer ardystiad neu'n cefnogi prosiectau gosod, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddeall eich rôl wrth ddarparu systemau ynni adnewyddadwy diogel, dibynadwy sy'n cydymffurfio â'r gofynion.

    Trosolwg o'r Agenda:
    09:00 – 09:15 | Croeso a Chyflwyniadau

    • Nodau a chyd-destun y cwrs

    • Pwysigrwydd safonau ansawdd yn y newid i sero net

    09:15 – 10:00 | Beth yw'r Microgeneration Certification Scheme (MCS)?

    • Trosolwg o'r MCS

    • Y technolegau dan sylw: Paneli solar, pympiau gwres, batris, ac ati

    • MCS a diogelu defnyddwyr

    10:00 – 10:30 | Safonau Ardystio MCS

    • Cyflwyniad i safonau MIS (e.e. MIS 3005)

    • Cymhwysedd, hyfforddiant a rhwymedigaethau gosodwyr

    • Dogfennau ac arferion gorau wrth drosglwyddo systemau i'r cleient

    10:30 – 10:45 | Egwyl

    10:45 – 11:30 | Rôl y Cyrff Ardystio

    • Cyrff ardystio achrededig gan UKAS

    • Ennill ardystiad a'r broses archwilio

    • Cymharu Cynlluniau Ardystio â Chynlluniau Personau Cymwys (CPS)

    11:30 – 12:00 | Cydymffurfiaeth a Diogelu Defnyddwyr

    • TrustMark, gwarantau a gweithdrefnau cwyno

    • Cyfrifoldebau gosodwyr o dan gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth

    • Trafodaeth agored a sesiynau holi ac ateb

    Deunyddiau sy'n rhan o'r cwrs:

    • Pecyn sleidiau digidol (PDF)

    • Crynodeb o safonau allweddol MCS

    • Rhestr wirio ardystio gosodwyr

    Dolenni defnyddiol i adnoddau MCS, TrustMark ac UKAS

    Gofynion mynediad

    Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

    Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:

    • ⁠Gosodwyr a chontractwyr ym maes ynni adnewyddadwy

    • Rheolwyr Prosiect a chydlynwyr cynlluniau carbon isel

    • Ymgynghorwyr ynni a gweithwyr proffesiynol ôl-osod

    • Gweithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i'r sector neu'n cefnogi ceisiadau am gyllid (BUS, SEG, ECO4)

    Dylai cyfranogwyr fod â diddordeb mewn sicrhau ansawdd neu gydymffurfio o ran y maes ynni adnewyddadwy yn y Deyrnas Unedig

    Cyflwyniad

    Cyflwynir y cwrs dros 3.5 awr (hanner diwrnod) ac mae'n cynnwys:

    • Cyflwyniadau dan arweiniad tiwtor a thrafodaethau grŵp
    • Sesiynau holi ac ateb a chyd-destun polisi
    • Deunyddiau PDF a chanllawiau cyfeirio ar gyfer parhau i ddysgu

    Asesiad

    Nid oes asesu ffurfiol.

    Anogir cyfranogi ac ymgysylltu gweithredol drwy gydol y cwrs.

    Bydd dysgwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb ar ôl cwblhau'r cwrs.

    Dilyniant

    Mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gref ar gyfer:

    • Paratoi ar gyfer Ardystiad gosodwr MCS

    • Dilyniant i hyfforddiant gosod neu ddylunio technoleg benodol (e.e. Paneli Solar, Pympiau Gwres)

    • Cyrsiau PAS 2030/2035 a chymwysterau a gydnabyddir gan TrustMark

    Rolau cefnogol mewn rheoli prosiectau, cydymffurfiaeth neu sicrhau ansawdd yn achos cynlluniau a ariennir

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom