Cynnal a Chadw Pympiau Gwres a Diagnosteg – Un diwrnod – yn cyd-fynd â'r Microgeneration Certification Scheme (MCS)

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni Ty Gwyrddfai
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      1 diwrnod llawn (tua 6-7 awr)

    Cofrestru
    ×

    Cynnal a Chadw Pympiau Gwres a Diagnosteg – Un diwrnod – yn cyd-fynd â'r Microgeneration Certification Scheme (MCS)

    Short Course

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs ymarferol undydd hwn yn rhoi'r sgiliau hanfodol ar gyfer cynnal a chadw a gwneud gwaith diagnosteg ar systemau pwmp gwres o'r aer a systemau pwmp gwres o'r ddaear, gyda'r cynnwys yn cyd-fynd â safonau cynnal a chadw'r Microgeneration Certification Scheme (MCS).

    Mae'r cwrs yn addas ar gyfer gosodwyr cymwys a gweithwyr proffesiynol o gefndiroedd plymio, gwresogi a charbon isel. Mae'r cwrs yn meithrin dealltwriaeth o weithrediad pympiau gwres, technegau canfod namau ac arferion gorau cynnal a chadw. Drwy dasgau ymarferol a senarios systemau byw, bydd dysgwyr yn magu hyder wrth wasanaethu a datrys problemau systemau pwmp gwres modern — sgil gynyddol hanfodol wrth i'r Deyrnas Unedig newid i wresogi sero net.

    P'un ai ydych chi'n newydd i bympiau gwres neu'n awyddus i loywi eich sgiliau, mae'r cwrs hwn yn cynnig sylfaen gadarn i symud ymlaen i gymwysterau diagnosteg ac ôl-osod.

    Gofynion mynediad

    Nid yw’n ofynnol meddu ar gymhwyster Pwmp Gwres o'r Aer na chymhwyster Pwmp Gwres o'r Ddaear i gofrestru.

    Fodd bynnag, dylai dysgwyr feddu ar yr isod:

    • Gwybodaeth weithredol am systemau gwres canolog gwlyb

    • Dealltwriaeth sylfaenol am systemau trydanol a mecanyddol

    • Profiad ymarferol ym maes gwresogi, plymio, gwasanaethau adeiladu neu ynni adnewyddadwy

    Mae’r cwrs hwn yn addas i:

    • Osodwyr pympiau gwres a pheirianwyr gwasanaethu

    • Peirianwyr nwy/olew sy'n newid i faes technolegau carbon isel

    • Gweithwyr cynnal a chadw proffesiynol sy'n awyddus i gydymffurfio â gofynion y Microgeneration Certification Scheme (MCS)

    Dysgwyr sy'n paratoi ar gyfer hyfforddiant diagnosteg neu ôl-osod Lefel 3

    Cyflwyniad

    Cyflwynir y cwrs wyneb yn wyneb dros gyfnod o un diwrnod llawn (tua 6-7 awr) yn un o'n canolfannau CIST. Mae'n cynnwys:

    • Sesiynau yn yr ystafell ddosbarth dan arweiniad tiwtor

    • Trafodaeth grŵp a dadansoddi astudiaethau achos

    • Ymarferion ymarferol gan ddefnyddio offer diagnostig a data system fyw

    • Senarios datrys problemau yn y byd go iawn

    Cyflwynir pob sesiwn gan diwtoriaid profiadol sydd â gwybodaeth gyfoes am y diwydiant.

    Asesiad

    Nid oes arholiad ffurfiol yn rhan o'r cwrs hwn.

    Mae'r asesu'n cael ei seilio ar:

    • Arsylwi dan arweiniad y tiwtor

    • Cyfranogi fel grŵp a chyflawni tasgau

    • Cwblhau ymarferion diagnostig ymarferol

    Ar ôl cwblhau cwrs, bydd cyfranogwyr yn derbyn Tystysgrif Presenoldeb

    Dilyniant

    Mae'r cwrs hwn yn garreg gamu ddelfrydol tuag at gymwysterau pellach mewn:

    • Diagnosteg a Chomisiynu Pympiau Gwres Lefel 3

    • Systemau gwresogi ôl-osod a charbon isel

    • Datblygiad proffesiynol parhaus sy'n cyd-fynd â safonau'r Microgeneration Certification Scheme (MCS) a thargedau sero net

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom