Cymorth Cyntaf Brys - Cymhwyster Lefel 3 (1 diwrnod)
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:CIST-Llangefni
-
Dull astudio:Part-time
-
Hyd:
1 diwrnod (6 Awr)
Cymorth Cyntaf Brys - Cymhwyster Lefel 3 (1 diwrnod)
Short Course
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae grantiau CITB ar gael i gwmnïau cofrestredig sy'n talu ardoll i'r CITB.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Nod y cymhwyster yw paratoi dysgwyr i fod yn swyddogion cymorth cyntaf brys yn y gweithle. Mae cynnwys y cymhwyster yn cyrraedd gofynion Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) o ran hyfforddi swyddogion cymorth cyntaf brys yn y sefydliadau hynny sydd wedi nodi bod angen i'w staff dderbyn hyfforddiant i'r lefel hon yn eu hasesiad anghenion cymorth cyntaf.
Mae'r cymhwyster yn ymdrin â gwybodaeth megis rolau a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau o anaf neu salwch. Mae'r cymhwyster hefyd yn ymdrin â sgiliau cymorth cyntaf o ran CPR a defnyddio diffibriliwr yn ogystal â helpu person anafedig sy'n tagu a delio â gwaedu allanol a sioc hypofolemia. Yn unol â chanllawiau a ddarparwyd gan y HSE, mae'r cymhwyster yn cefnogi/cymeradwyo swyddogion cymorth cyntaf yn y gweithle am gyfnod o dair blynedd ac yna bydd gofyn iddynt wneud y cwrs eto. Yn ogystal â hyn, argymhellir bod dysgwyr yn atgoffa eu hunain o'r wybodaeth yn flynyddol.
Dyddiadau Cwrs
Busnes@St Asaph
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
08/12/2025 | 08:30 | Dydd Llun | 6.00 | 1 | £125 | 0 / 12 | D0024858 |
Ty Gwyrddfai
Dyddiad | Amser | Dyddiau | Oriau | Wythnosau | Cost | Archebion | Cod |
---|---|---|---|---|---|---|---|
10/11/2025 | 08:30 | Dydd Llun | 6.00 | 1 | £125 | 0 / 12 | D0024854 |
Gofynion mynediad
- Rhaid i ddysgwyr fod yn 14 oed o leiaf.
Cyflwyniad
- Group work
- Practical assessments
- Role play
- Scenarios
- Formal teaching/theory
- Examination
Asesiad
- Continual practical examination
- Multi-choice examination
This qualification has been accredited by the regulators of England and Wales (Ofqual and the Welsh Government) and is part of the Qualifications and Credit Framework (QCF). It is supported by Skills for Health, the Sector Skills Council for health.

