EAL Lefel 3 - Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      I'W GADARNHAU

    Cofrestru
    ×

    EAL Lefel 3 - Gweithiwr Electrodechnegol Profiadol

    Professional

    Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Dim ond ar gyfer unigolion sydd wedi bod yn gweithio fel trydanwyr yn y diwydiant electrodechnegol am o leiaf bum mlynedd ac sy'n meddu ar wybodaeth, dealltwriaeth a chymwyseddau penodol (a amlinellir yn y sgan sgiliau ac sy'n cyfateb i gymhwyster Lefel 3 y brentisiaeth electrodechnegol) y mae'r cymhwyster hwn yn addas. Ar y cyd ag asesiad terfynol AM2E, mae'n rhan o'r gofynion asesu ar gyfer Gweithwyr Electrodechnegol Profiadol, ac yn galluogi gweithwyr profiadol i wneud cais am Gerdyn Aur ECS Trydanwyr Gosod.

    Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster hwn?

    • trydanwyr profiadol sy'n gweithio neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant electrodechnegol am o leiaf bum mlynedd
    • y rhai sydd am i'w cymwyseddau gael eu cydnabod ac sy'n gweithio tuag at Gerdyn Aur ECS
    • y rhai sy'n dymuno datblygu eu gyrfa.

    Beth mae'r cymhwyster yn ei gynnwys?

    Y cymwyseddau sy'n gysylltiedig â gosod a chomisiynu trydanol. Mae'r cymhwyster yn cynnwys unedau ymarferol: sy'n rhoi sylw i ystyriaethau iechyd a diogelwch ac ystyriaethau amgylcheddol, trefnu'r amgylchedd gwaith, cymhwyso arferion dylunio a gosod, terfynu a chysylltu dargludyddion, archwilio a phrofi, canfod a chywiro namau. Mae hefyd yn cynnwys dwy uned sy'n trafod rheoliadau gwifro BS 7671 a dilysu cychwynnol (mae'r un unedau'n rhan o'r ⁠cymwysterau DPP a gydnabyddir gan y diwydiant).

    Gofynion mynediad

    Nid yw'r cymhwyster yn addas i weithwyr newydd yn y diwydiant electrodechnegol, prentisiaid, na'r sawl sydd wedi cwblhau cymhwyster electrodechnegol ond sydd â llai na phum mlynedd o brofiad yn y diwydiant.

    ⁠Cyn ymgymryd â'r cymhwyster hwn, mae'n ofynnol i ddysgwyr gael asesiad o'u haddasrwydd trwy gwblhau sgan sgiliau cyn-fynediad.

    RHAID i ddysgwyr allu profi bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth sy'n cyfateb i gymhwyster lefel 3 y brentisiaeth Electrodechnegol.

    Pan na fydd gan y dysgwyr y cymwysterau perthnasol bydd eu cymhwysedd yn cael ei brofi trwy'r sgan sgiliau er mwyn gwirio bod ganddynt y wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol.

    RHAID i hyn ddigwydd cyn i'r dysgwr gael ei gofrestru ar y cwrs. Ystod oedran y cymhwyster hwn yw 19+, ond gan fod ar y dysgwyr angen pum mlynedd o brofiad yn y diwydiant disgwylir y byddant yn sylweddol hŷn.

    Cyflwyniad

    Cyfuniad o theori a dysgu ymarferol ynghyd â gwaith portffolio

    Asesiad

    Asesir y dysgwyr ar eu portffolio o dystiolaeth seiliedig ar waith.

    Bydd yn rhaid iddynt hefyd sefyll dau arholiad ar y sgrin (gwirio cychwynnol, a rheoliadau gwifro BS 7671).

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom