ABBE - Arolygu a chyfrifo'r gwres sy'n cael ei golli o adeiladau (Lefel 3)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    CIST-Llangefni
  • Dull astudio:
    Part-time
  • Hyd:

    Cyfanswm yr amser cymhwyso: 190 awr; Dysgu o dan arweiniad: 30 awr (ystafell ddosbarth/gweithdy)

Cofrestrwch
×

ABBE - Arolygu a chyfrifo'r gwres sy'n cael ei golli o adeiladau (Lefel 3)

Short Course

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i cist@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r cwrs tystysgrif Lefel 3 hwn yn eich dysgu i arolygu adeiladau, mesur faint o wres a gollir, a nodi anghenion system pwmp gwres. Byddwch yn meithrin y sgiliau i ddylunio systemau cydymffurfiol yn seiliedig ar BS EN 12831, sy'n hanfodol ar gyfer gosodwyr achrededig Microgeneration Certification Scheme (MCS). Mae'r cwrs yn cwmpasu asesu oedran a strwythur eiddo, deall rheoliadau ar gyfer gosod pympiau gwres a sŵn, a chynnal cyfrifiadau colli gwres gan ddefnyddio dulliau â llaw a meddalwedd.

Y pynciau a astudir:

Uned

Teitl

Yr hyn fyddwch chi'n ei ddysgu

1

Penderfynu ar oedran ac adeiladwaith yr adeilad

Sut i asesu oedran, strwythur a chynlluniau llawr eiddo a mesur y gwres sy'n cael ei golli

2

Rheoliadau, Sŵn ac Arolwg Technegol

Rheolau ar gyfer lleoli pympiau gwres, asesu sŵn, a chasglu data technegol

3

Cyfrifiadau Colli Gwres

Dulliau o gyfrifo'r gwres sy'n cael ei golli a maint pibellau ac allyrwyr gyda meddalwedd a heb feddalwedd, a chofnodi'r wybodaeth yn unol â safonau'r MCS.

Gofynion mynediad

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ymlaen llaw.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer:

  • Aseswyr ynni sydd eisiau dysgu dylunio systemau pwmp gwres.
  • Peirianwyr neu dechnegwyr sy'n ymwneud â pherfformiad ynni adeiladau
  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod yn ddylunydd MCS, asesydd ynni, neu arbenigwr ôl-osod

Dylai'r dysgwyr feddu ar:

  • Ddiddordeb a gallu i gwblhau'r dysgu a'r asesiad

Cyflwyniad

Mae Cyfanswm Amser Cymhwyso'r cwrs yn 190 awr, sy'n cynnwys 30 awr o ddysgu dan arweiniad (ystafell ddosbarth/gweithdy). Gellir cwblhau'n hyblyg, yn seiliedig ar eich cyflymder ac amserlen y darparydd

Asesiad

Mae'r asesiad yn seiliedig ar gymhwyster Llwyddo/Methu, sy'n gofyn am gwblhau'r holl unedau. Byddwch yn cael eich asesu drwy:

  • Portffolio o dystiolaeth Dogfennu a chofnodi eich cyfrifiadau a'ch arolygon
  • Dangosiadau dulliau cyfrifiadau colli gwres, gyda meddalwedd a heb feddalwedd.
  • Yn dangos sut mae eich gwaith yn bodloni rheoliadau a safonau sŵn

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill Tystysgrif Lefel 3 RQF a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer swyddi fel dylunydd MCS, asesydd ôl-osod, neu asesydd ynni. Bydd gennych y gallu i arolygu adeiladau, cyfrifo faint o wres a gollir, a llunio manyleb systemau pwmp gwres

Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



Anfonwch neges atom