Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Deall Rhwymedigaethau Trydanol Gosod Pympiau Gwres

    Manylion Allweddol

    • Ar gael yn:
      CIST-Llangefni
    • Dull astudio:
      Part-time
    • Hyd:

      3 diwrnod

    Cofrestru
    ×

    Dyfarniad Lefel 3 ABBE mewn Deall Rhwymedigaethau Trydanol Gosod Pympiau Gwres

    Short Course

    CIST-Llangefni
    Dydd Mercher, 08/04/2026

    Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

    Disgrifiad o'r Cwrs

    Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol os ydych chi'n gweithio fel trydanwr neu ym maes y gwasanaethau adeiladu ac eisiau datblygu eich gwybodaeth am systemau pwmp gwres a'r cyfrifoldebau trydanol sy'n gysylltiedig â'u gosod. Byddwch chi'n dysgu sut mae pympiau gwres yn gweithio, sut maen nhw'n wahanol i systemau gwresogi traddodiadol, a pha ofynion diogelwch, cyfreithiol a chydymffurfiaeth y mae'n rhaid eu bodloni. Mae'r cwrs yn cefnogi'r rhai sy'n awyddus i ddatblygu eu sgiliau yn gyflym, fydd yn eu galluogi i symud i'r sector gwresogi carbon isel wrth i'w boblogrwydd gynyddu

    Dyddiadau Cwrs

    CIST-Llangefni

    Mae gofyn am gyfweliad cyn cofrestru ar gyfer y cwrs hwn. Ffoniwch ni ar 08445 460 460 am wybodaeth bellach.

    DyddiadAmserDyddiauOriauWythnosauCostCod
    08/04/202608:30 Dydd Mercher, Dydd Iau21.002 £695D0026311

    Gofynion mynediad

    Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Mae'r cwrs hwn yn fwyaf addas ar gyfer trydanwyr neu ddysgwyr sy'n gweithio ym maes y gwasanaethau adeiladu neu'r sector ynni adnewyddadwy. Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf

    Cyflwyniad

    Cyflwynir y cwrs dros 3 diwrnod drwy sesiynau dan arweiniad tiwtor, cyflwyniadau, trafodaethau ac enghreifftiau ymarferol o'r byd go iawn

    Asesiad

    Mae'r asesu'n digwydd drwy arholiad byr. Mae'r cymhwyster hwn wedi ei raddio yn Llwyddo/Methu.

    Dilyniant

    Mae'r cwrs hwn yn cefnogi dilyniant i hyfforddiant pellach mewn gosod pympiau gwres, technolegau ynni adnewyddadwy, a chydymffurfiaeth drydanol, yn ogystal â chyfleoedd cyflogaeth gwell o fewn y sector carbon isel a'r gwasanaethau adeiladu

    Os na allwch ddod o hyd i'r cwrs rydych chi'n chwilio amdano, neu os hoffech gyngor ynghylch y cyllid sydd ar gael i hyfforddi, cysylltwch â ni



    Anfonwch neges atom