Get Carter UK 365

Mae Get Carter UK 365 wedi gweld cynnydd yn galw am ynni adnewyddadwy yn y sector eiddo domestig a masnachol. I fodloni'r galw, cafodd y cwmni hyfforddiant mewn technolegau solar thermol a phympiau gwres ynghyd â rheoliadau ymwneud ag effeithlonrwydd ynni a dŵr.

Prosiect Hyfforddiant Sero Net Gwynedd

Mae CIST yn darparu hyfforddiant mewn technoleg carbon isel i wella sgiliau crefftwyr a busnesau bach a chanolig. Y bwriad yw paratoi busnesau lleol ar gyfer dyfodol sero net trwy sicrhau bod gweithwyr yn gallu bodloni'r cynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn cartrefi.

Mae Prosiect Sero Net Gwynedd wedi derbyn £500,000 ⁠gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Paul Carter

Enw:

Paul Carter

Cwmni:

Get Carter UK 365 Ltd

Proffil y Cwmni:

Wedi ei sefydlu yn 2015, mae’r busnes wedi ei leoli yng ngogledd Cymru ac yn cyflogi 13 o bobl. Mae Get Carter yn gweithio ar draws y DU gan ddarparu gwasanaethau gwresogi a phlymio i gwsmeriaid masnachol a domestig yn y sector tai preifat a chymdeithasol.

Ydi anghenion eich cwsmeriaid yn newid?

Rydym yn sicr yn sylwi ar gynnydd yn y galw am ynni adnewyddadwy mewn tai yn ogystal â mewn eiddo masnachol. Ond mae cwsmeriaid yn dweud mai’r prif reswm am hyn ar hyn o bryd yw’r angen i leihau costau ac arbed arian yn y tymor hir gan fod prisiau ynni ar gynnydd.

Pam wnaethoch chi benderfynu cofrestru gyda Sero Net Gwynedd?

Rydw i o hyd yn awyddus i ddatblygu fy sgiliau felly roedd hi’n gwneud synnwyr i’r busnes fod yn rhan o’r cynllun. Wrth i’r galw gynyddu am ffyrdd mwy cynaliadwy o wresogi cartrefi, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn gallu ateb y galw yn ogystal â chadw i fyny â thechnoleg. Wrth redeg busnes mae’n hynod o bwysig ni barhau i fod yn gystadleuol.

Pa gyrsiau ydych chi wedi eu dilyn?

  • Solar Thermol
  • Pympiau Gwres
  • Effeithlonrwydd Domestig
  • Rheoliadau Dŵr

Ydi’r sgiliau rydych chi wedi’u ddysgu trwy’r prosiect wedi bod yn ddefnyddiol i chi?

Mae'r sgiliau rydyn ni'n eu dysgu trwy'r prosiect yn helpu ni i ddal i fyny efo’r wybodaeth ddiweddaraf a hefyd yn golygu y gallwn ni esblygu fel busnes. Mae’r cyrsiau wedi ein helpu i ddatblygu ein gallu fel cwmni a chynnig y gwasanaethau ynni adnewyddadwy y mae ein cwsmeriaid yn gynyddol gofyn amdanynt.