Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newidiadau i Gymwysterau Trydanwyr

Mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â'r diwydiant trydan yn newid wrth i'r pwyllgor EAS (Electrotechnical Assessment Specification) gyhoeddi diweddariadau sylweddol i Ganllawiau Manyleb a Chymwysterau EAS.

Yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol a'r math o waith rydych chi neu'ch cwmni yn ei wneud, o fis Hydref 2026 ymlaen bydd angen i chi sicrhau bod eich cymwysterau yn gyfredol ar gyfer y math o waith rydych chi'n ei wneud, a'r contractau neu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu.

Dyma'r amser i weithredu, oherwydd o fis Hydref 2026 ymlaen bydd angen i chi weithio tuag at ennill y cymwysterau i gydymffurfio â'r rheoliadau newydd.

Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am bwy mae'r newidiadau hyn yn effeithio arnynt a'r hyfforddiant sydd ei angen i fodloni'r rheoliadau newydd.

I gael cefnogaeth a chyngor, cysylltwch â cist@gllm.ac.uk. Yn ddibynnol ar fodloni'r meini prawf, fe all cyllid fod ar gael i hyfforddi.

Technolegau lleihau carbon
Bydd angen ardystiadau newydd ar unigolion sy'n gosod technolegau lleihau carbon fel Paneli Solar, Batris, a Phwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan er mwyn gallu cymeradwyo eu gwaith eu hunain. Yn dibynnu ar y math o waith a wneir, bydd arnoch angen:

Archwilio a phrofi systemau trydan ac adrodd arnynt (profion EICR neu brofion rheolaidd)
Bydd ar unigolion sy'n cynnal profion EICR neu brofion rheolaidd, yn ogystal ag archwilio, profi ac adrodd, bellach angen cymhwyster cydnabyddedig er mwyn parhau i wneud y gwaith.

Bydd arnoch angen:

Yn ogystal â:

Trydanwyr Profiadol
Os oes gennych chi brofiad sylweddol ond dim llawer o gymwysterau ffurfiol (NVQ Lefel 3 ac AM2), gall y llwybr hwn eich helpu i gydymffurfio a chael eich ardystio drwy gwblhau'r EAL L3 i Weithwyr Electrodechnegol Profiadol:

Gweithiwr yn cydosod system ynni gyda phanel solar ar gyfer trydan