Gyrfaoedd a Dilyniant
Gall astudio yn y coleg agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd. Ond os nad wyt ti'n siŵr pa yrfa sy'n iawn i ti, mae ein gwefan cymorth gyrfaoedd ar-lein yma i helpu.
P'un a wyt ti am fynd ymlaen i'r brifysgol, dilyn prentisiaeth, cael swydd, parhau â dy addysg neu ddechrau dy fusnes dy hun, mae Grŵp Llandrillo Menai yma i dy helpu i gymryd y cam nesaf tuag at dy ddyfodol.
Mae ein tîm yn cynnig cyngor ac arweiniad i dy helpu i edrych ar gyfleoedd gyrfa, i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, ac i ddewis y llwybr sy'n iawn i ti. O geisiadau UCAS a dewisiadau addysg uwch i ysgrifennu CV, gwneud cais am swyddi, paratoi at gyfweliadau a chynllunio gyrfa, rydyn ni yma i dy gefnogi bob cam o'r ffordd.
Cymorth Gyrfaoedd Ar-lein
Ddim yn hollol siŵr pa lwybr gyrfa i'w ddilyn? Fe wnawn ni dy helpu i fynd i'r cyfeiriad cywir a dewis yr union gwrs a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy nod.
Cwis Gyrfaoedd
Rho gynnig ar ein Cwis Gyrfaoedd i ganfod pa fath o bersonoliaeth sydd gen ti ac i gael argymhellion am swyddi addas a phynciau i'w hastudio yn y coleg.
Adnodd Llwybrau Gyrfa
Cymera olwg ar ein hadnodd Llwybrau Gyrfa sy'n cynnig pob math o wybodaeth am y gwahanol swyddi sydd a'r gael a pha gymwysterau sydd orau ar eu cyfer.
Help i Gael Swydd
Gall ein hasiantaeth Fenter a Chyflogaeth (CAMVA) dy helpu i gymryd y cam nesaf i waith, prentisiaeth neu ddechrau dy fusnes dy hun.
Gallwn dy helpu i ysgrifennu CV, ymarfer sgiliau cyfweliad a dod o hyd i leoliadau profiad gwaith.
Eisiau bod yn fos arnat ti dy hun? Gall ein Swyddogion Menter dy helpu i ddatblygu syniadau, creu cynllun busnes, marchnata, sicrhau cyllid a pharatoi ar gyfer y dyfodol.