Sgiliau ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr (SEE)
Sgiliau ar gyfer Economi Fyw
Y Ddarpariaeth Bresennol
Dangosir yr ystod bresennol o gyrsiau sydd ar gael fel rhan o'r prosiect ar gael yma.
Mae SEE (Sgiliau i Gyflogwyr a Gweithwyr) yn brosiect £18.7M fydd yn darparu rhaglenni hyfforddi ar gyfer busnesau mewn sectorau allweddol ar draws Gogledd Cymru. Nod yw prosiect yw cefnogi 7,000 o weithwyr cyflogedig ar draws y rhanbarth i ddatblygu'r sgiliau allweddol sydd eu hangen i dyfu'r economi leol.
Mae'r prosiect, a ddarperir mewn partneriaeth â Choleg Cambria, yn adeiladu ar lwyddiannau rhaglenni eraill Cronfa Gymdeithasol Ewrop megis prosiect Dyfodol.
Gall holl gyflogwyr y sector preifat yn siroedd Conwy, Gwynedd, Môn, Dinbych, Wrecsam a'r Fflint fanteisio ar yr arian hwn, pa un ai a ydynt yn unig fasnachwyr neu'n gwmnïau mawr.
Bydd y prosiect hwn yn para tan fis Mehefin 2023 a bydd yn cyd-fynd â nifer o ddatblygiadau allweddol yn yr ardal. Ar y cyfan, bydd y cyrsiau a ddarperir ar gyfer rhaglenni hwy megis NVQs ac yn canolbwyntio ar sectorau a ddynodwyd yn flaenoriaeth, sef Ynni, Gweithgynhyrchu, Bwyd ac Amaeth, Twristiaeth a Hamdden Awyr Agored, y maes Digidol a TGCh. Bydd yna hefyd ystod eang o gyrsiau ar gyfer sectorau lleol pwysig megis Gofal, Manwerthu ac Adeiladu.
Ydi fy nghwmni'n gymwys ar gyfer cyllid SEE?
- Unig Fasnachwyr, Busnesau Micro, Bach, Canolig a Mawr
- Y Sector Preifat neu Gyhoeddus (sectorau blaenoriaeth yn unig)
- Wedi cofrestru yng Ngogledd Cymru
- Cadarnhad o Gofrestriad TAW gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)
Ydi fy ngweithiwr yn gymwys ar gyfer cyllid SEE?
- O leiaf 16 oed
- Yn weithiwr cyflogedig i gwmni cymwys (copi o slipiau cyflog)
- Ddim yn derbyn unrhyw gyllid gan y llywodraeth ar gyfer yr un hyfforddiant
- Hawl i fyw a gweithio ym Mhrydain
- Does dim rhaid iddo / iddi fyw yng Nghymru
Pa gymorth fyddaf yn ei gael?
Erbyn hyn mae lefel ariannol uwch fyth ar gael trwy'r prosiect mewn ymateb i sefyllfa firws Covid-19. Felly gallwch elwa ar gyrchu hyfforddiant â hyd at 100% o gymhorthdal i'ch gweithlu (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol*) hyd at 30 Mehefin 2023.
*Rhaid i fusnesau beidio â bod wedi cael mwy na 200,000 ewro o gymorth gwladwriaethol De Minimis yn ystod y 3 blynedd ariannol ddiwethaf. Mae angen datganiad De Minimis.
Mae'r arian sydd ar gael yn amrywio rhwng 50% ac 70% o ffi'r cwrs ac mae'n ddibynnol ar y math o gwrs dan sylw ac ar nifer y gweithwyr yn eich sefydliad. Ar gyfer cyrsiau sy'n para'n hirach na dwy flynedd, ar hyn o bryd ni ellir ond sicrhau arian am ddwy flynedd gyntaf yr hyfforddiant.
Gwybodaeth Bellach
I drafod eich anghenion hyfforddi ag un o'n Ymgynghorwyr Datblygu Busnes cysylltwch â Busnes@LlandrilloMenai ar 08445 460 460 neu anfonwch e-bost i busnes@gllm.uk
