Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth

Nod y prosiect £825,000 hwn a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, mewn partneriaeth â Mostyn Estates, yw ysbrydoli, ysgogi a chreu arloesedd ym maes twristiaeth. Ar gael bellach yn Llandudno a ledled sir Conwy.

  • Ydych chi’n fusnes neu'n sefydliad sy'n gweithio yn y sector lletygarwch, manwerthu neu dwristiaeth yn Llandudno?
  • Ydych chi'n awyddus i fanteisio ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer cyfleoedd hyfforddi amrywiol?
  • Allech chi ddefnyddio'r cyllid i gadw a recriwtio gweithwyr?
  • Oes gennych chi syniad am fenter fusnes neu gyfle newydd i arloesi?

Yna mae Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth yma i'ch helpu chi.

Beth yw Hwb Arloesi Llandudno ar gyfer Twristiaeth?

Mae'r prosiect newydd cyffrous hwn yn cynnwys cyfres o fentrau i greu arloesedd yn economi ymwelwyr a diwydiant twristiaeth bywiog y sir.

Nod y prosiect yw helpu i feithrin gwydnwch busnes, gwella effeithlonrwydd a chreu mantais gystadleuol i sefydliadau yn y sir. Dylai busnesau allu elwa'n unigol yn ogystal â gweithio ar y cyd i ddatblygu'r gallu i dyfu.

Mae'r prosiect yn mynd i'r afael ag anghenion y diwydiant drwy ganolbwyntio ar bedair thema:

  • Adfywio trefi drwy gyfrwng twristiaeth
  • Twristiaeth sero net
  • Meithrin talent ar gyfer y dyfodol
  • Ymestyn y tymor

Mae'r prosiect yn cynnwys tair elfen allweddol:

  • Rhaglen Arloesi: Cyfres o weithdai, dosbarthiadau meistr a chyfleoedd hyfforddi.
  • Cadw er mwyn Arloesi: Cyllid i ailhyfforddi neu recriwtio staff, neu i helpu i ddatblygu prosiect arloesol i wella effeithiolrwydd eich busnes.
  • Lleoliad Dros Dro (Pop-up): Cymhorthdal i gael siop, swyddfa neu leoliad ar gyfer diwydiant ysgafn gan Mostyn Estates i dreialu mentrau newydd.

Gall sefydliadau fanteisio ar rai o elfennau'r prosiect neu'r cyfan ohonynt. Ceir rhagor o wybodaeth am bob elfen isod.

Dyn yn rhoi cyflwyniad

Y Rhaglen Arloesi

Mae'r Rhaglen Arloesi yn rhaglen o ddigwyddiadau sy'n cynnwys y wybodaeth a'r arbenigedd lleol a rhyngwladol gorau.

Digwyddiadau Ymestyn y Tymor a Thwristiaeth y Gaeaf: 17 Tachwedd - 12 Rhafyr 2022

Bydd y rhain yn cynnwys prif siaradwyr, fforymau trafod, gweithdai, dosbarthiadau meistr a hyfforddiant.

Nod y rhaglen yw rhoi gwybodaeth a mewnwelediad i chi eu cymryd i ffwrdd a’i gweithredu ar unwaith i’ch busnes.

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Adeiladu’r Cysylltiadau Japaneaidd
  • Y Swistir - cynnyrch twristiaeth 2-tymor
  • Y Cysylltiad Gwyddelig
  • Rheoli Digwyddiadau a Chynllunio Profiadau Gwych y Tu Allan i’r Tymor
  • Snwcer y Byd 2023
  • Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) a Gweithio gyda Croeso Cymru
  • Pwer Awdio, Sut i gael y Neges yn Gywir a Chynnwys Brand
  • Creu Conwy
  • Masnach Teithio a Digwyddiadau Busnes
  • Cwsmer y Gaeaf

Rhagor o wybodaeth a manylion ar sut i archebu eich lle ar gael:

northwalestourism.com/winter-tourism-events

Pobl yn defnyddio gliniadur

Cadw er mwyn Arloesi

Cyfle i dderbyn cyllid i gadw gweithiwr tymhorol a fyddai fel arfer yn cael ei ryddhau o'i ddyletswydd 'y tu allan i'r tymor' yn hydref 2022. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Hydref 2022

Cysylltwch innovatellandudnotourism@gllm.ac.uk

Eiddo Dros dro 'Pop-up'

Mae'r rhaglen gyffrous hon yn rhoi cyfle i chi dreialu menter fusnes newydd yn Llandudno.

Cynigir cymhorthdal i gael siop, swyddfa neu leoliad ar gyfer diwydiant ysgafn gan Mostyn Estates i dreialu syniadau busnes newydd. Gallai hyn fod yn fusnes newydd neu'n ychwanegiad i fusnes presennol.

Ceisir syniadau a fydd yn cyfoethogi profiadau ymwelwyr â Llandudno, yn ategu'r hyn a gynigir ar hyn o bryd ac a fydd o fudd i'r gymuned leol.

Gallai syniadau posibl fod ym maes bwyd a diod, diwylliant a threftadaeth, gweithgareddau twristiaeth, chwaraeon a hamdden neu gelf a chrefft.

Bydd y safle ar gael drwy drefniant tymor byr dros gyfnod y prosiect gyda chyfle i ymestyn wedi hynny, gobeithio fel nodwedd hirdymor o gymuned fusnes Llandudno.

Pwy all fod yn rhan o'r prosiect?

Rhaid i fusnesau sy'n gymwys i fod yn rhan o'r prosiect fod wedi'u lleoli yn sir Conwy a gweithredu yn un neu ragor o'r grwpiau canlynol:

  • Lletygarwch
  • Darparwr gweithgareddau
  • Atyniadau
  • Manwerthu
  • Y Gadwyn Gyflenwi – cynhyrchwyr a chyfanwerthwyr
  • Cyrff a sefydliadau yn y sector cyhoeddus, elusennau a busnesau nid er elw

Mae'r prosiect yn agored i weithwyr, cyflogwyr, rheolwyr a pherchnogion.

Oes gennych chi ddiddordeb?

Llenwch y ffurflen isod, neu i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyfleoedd, cysylltwch â'r Swyddog Prosiect, Andrew Thomas ar arloesitwristiaethllandudno@gllm.ac.uk

Gallwch hefyd ymweld ag Andrew yn swyddfa'r Hwb Twristiaeth yn 24 Sgwâr y Drindod i drafod sut y gall eich busnes elwa.

Rhowch eich neges.

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adfywio Cymunedol y DU.

Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredinol y DU. Mae'n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewal-fund-prospectus