Proffil Dysgwr - Shaun Conrad, Amrywiol gyrsiau CPCS (Adeiladwaith)

Mae Busnes@LlandrilloMenai a’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn helpu pobl i ddatblygu drwy eu Cyfrif Dysgu Personol (CDP).

Mae rhain yn gyrsiau hyblyg sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer pobl sy’n ennill llai na £29,534, neu mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith, gan roi’r sgiliau cywir i bobl ddatblygu neu newid eu gyrfa. Mae’r cyrsiau hyn yn rhai galwedigaethol ac yn canolbwyntio ar sectorau lle mae prinder sgiliau.

Y nod yw helpu unigolion, drwy wella sgiliau pobl mewn meysydd fel TG, digidol, cyllid, adeiladu swyddi gwyrdd a mwy.

Enw: Shaun Conrad

“Mae’n gynllun gwych. Mae o wedi newid fy mywyd a dw i rŵan yn gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol.”

Cymhwyster: Amrywiol gyrsiau CPCS (Adeiladwaith)

Pam nes di ddewis y cwrs?
Roeddwn i mewn swydd lle nad oedd cyfleoedd i symud ymlaen ac roeddwn i eisiau gwella fy hun. Felly pan soniodd ffrind am y CDP penderfynais i fynd amdani.

Beth oeddet ti’n ei wneud cyn y cwrs?
Nes i adael yr ysgol a mynd yn syth i fyd gwaith, gan weithio fel labrwr ar safle adeiladu. Es i weithio wedyn ar safle carafanau. Doedd gen i ddim yr hyder i fynd i’r coleg a nes i ddim mwynhau’r ysgol.

Sut mae’r CDP wedi dy helpu?
Mae cynllun wedi fy newid. Mae dilyn cyrsiau peiriannu yn ddrud felly rhoddodd y cyfle i fi ennill cymhwyster am ddim a chreu nifer o gyfleoedd gwerthfawr. Ar ôl cwblhau’r cwrs roeddwn i’n ddigon lwcus i gael cynnig gwaith yn y coleg fel aseswr. Fyswn i byth wedi dychmygu gweithio ym myd addysgu ychydig flynyddoedd yn ôl. Cyn ennill y cymhwyser roeddwn i wastad yn gweithio mewn swyddi oedd yn talu isafswm cyflog ac yn byw o un cyflog i’r nesaf. Mae o wedi newid fy mywyd a dwi’n gallu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae o’n gynllun gwych sy’n cynnig ystod eang o gyrsiau.

Ydy’r cymhwyster wedi newid cwrs dy yrfa neu wedi arwain at swydd newydd neu waith hirdymor?
Heb os. Mae’r cynllun wedi newid llwybr fy ngyrfa yn llwyr. Dw i rŵan yn aseswr hunangyflogedig ac yn gweithio’n llawn-amser. Gyda’r cymhwyster dwi’n gallu dysgu ac asesu pobl ar sut i weithio gyda pheiriannau. Y CDP sy’n gyfrifol am fy nghyflwyno i’r gwaith yma, gwaith fyswn i byth wedi ei ystyried cynt.

Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â