Proffil Dysgwr - Beatrice O’Loan, NEBOSH ac Adeiladwaith NEBOSH

Mae Busnes@LlandrilloMenai a’r Ganolfan Isadeiledd, Sgiliau a Thechnoleg (CIST) yn helpu pobl i ddatblygu drwy eu Cyfrif Dysgu Personol (CDP).

Mae rhain yn gyrsiau hyblyg sy’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer pobl sy’n ennill llai na £29,534, neu mewn perygl o gael eu gwneud yn ddi-waith, gan roi’r sgiliau cywir i bobl ddatblygu neu newid eu gyrfa. Mae’r cyrsiau hyn yn rhai galwedigaethol ac yn canolbwyntio ar sectorau lle mae prinder sgiliau. Y nod yw helpu unigolion, drwy wella sgiliau pobl mewn meysydd fel TG, digidol, cyllid, adeiladu swyddi gwyrdd a mwy.

Enw: Beatrice O’Loan

Cymhwyster: NEBOSH ac Adeiladwaith NEBOSH

Rôl bresennol: Cydlynydd IDAA, Cwmni Adeiladu a Pheirianneg Sifil Jennings

Pam nes di ddewis y cwrs? Roedd gen i ddiddordeb mewn iechyd a diogelwch ac yn gweithio mewn fferyllfa ar y pryd. Roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i swydd barhaol felly penderfynais i ymgymryd â’r cwrs er mwyn trio symud ymlaen yn fy ngyrfa.

Dweud ychydig am dy gefndir: Roeddwn yn astudio ar gyfer Lefel A pan ddaeth Covid, felly pan orffennais yn yr ysgol ym mis Mawrth doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf. Penderfynais nad oeddwn i eisiau fy lle yn y brifysgol felly ges i swydd yn y sector manwerthu cyn dechrau gweithio mewn fferyllfa. Roeddwn i’n mwynhau’r gwaith ond yn mynd o un cytundeb dros dro i’r nesaf a doedd dim cefnogaeth i ddatblygu fy sgiliau. Penderfynais fynd i weithio i ganolfan alwadau i gael incwm tra'n astudio ar gyfer fy nghymhwyster cyntaf CDP.

Sut mae’r CDP wedi dy helpu?
Doedd fy swyddi blaenorol heb roi i mi'r cyfleoedd roeddwn i eisiau. Newidiodd hyn gyda chwrs cyntaf y CDP. Roedd yn agoriad llygaid i feysydd gwaith hollol newydd ac yn gwneud i mi feddwl am swyddi mewn sectorau hollol wahanol. Erbyn hyn dwi’n gweithio yn y diwydiant adeiladu - rywbeth nes i erioed ei ystyried cynt. Dwi wedi gwneud ffrindiau newydd, ac wedi dod i adnabod cymuned hollol newydd. Dyma’r peth gorau dwi erioed wedi ei wneud.

Ydi’r cymhwyster wedi newid llwybr dy yrfa?
Heb os, heb CDP dwi ddim yn siŵr beth fyswn i’n ei wneud heddiw. Mae o wedi agor cymaint o ddrysau i fi a rhoi'r cyfle i fi ddatblygu mewn gyrfa lle dwi’n gallu gweld fy hun yn yr hirdymor. Dwi mewn swydd dwi’n ei charu ac mae fy nghyflogwr mor gefnogol. Oherwydd y ddau gymhwyster dwi wedi ennill drwy’r CDP dwi wedi gallu symud ymlaen i astudio diploma.


Y Wasg / Y Cyfryngau

Os oes gennych ymholiad ar ran y wasg neu'r cyfryngau, cysylltwch â