CIPD Level 3 Tystysgrif CIPD mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Dysgu o bell
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn, rhan-amser (30 sesiynau)

Gwnewch gais
×

CIPD Level 3 Tystysgrif CIPD mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol (Cwrs Dysgu o Bell/Ar-lein dan arweiniad tiwtor)

Proffesiynol

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Dystysgrif mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol yn gymhwyster newydd a gynigir gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, a gallwch ddewis astudio naill ai yn ein campws ym Mangor neu Llandrillo-yn-rhos, neu yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'n addas i rai sydd eisoes yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol neu sy'n gobeithio gwneud hynny. Mae'r cwrs, sydd wedi'i anelu'n benodol at weinyddwyr ac ymgynghorwyr AD, yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau unigolion mewn pynciau cyfoes sy'n ymwneud ag adnoddau dynol.

Rhoddir pwyslais ar rôl AD fel partner busnes i reolwyr llinell, ac edrychir ar sut y mae AD yn chwarae rhan bwysig o ran llunio gweledigaeth sefydliad. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn y Dystysgrif mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol.

Bydd astudio at gymhwyster CIPD ar lefel sylfaen yn rhoi i chi'r wybodaeth sydd ei hangen i ddod yn aelod cyswllt proffesiynol newydd o'r CIPD. Os bydd gennych y profiad perthnasol, gallwch wneud cais i gael eich asesu ar gyfer aelodaeth (asesiad o'ch gweithgareddau a'ch ymddygiadau yn y gweithle). Os llwyddwch yn yr asesiad, cewch ddyrchafiad i fod yn Aelod Cyswllt newydd.

Yn ogystal â'r cymwysterau ffurfiol, byddwch wedi cael profiad amhrisiadwy o weithio ym maes AD ac wedi dysgu llawer gan eraill a fu'n dilyn y cwrs gyda chi.

Yn ystod y flwyddyn, byddwch yn astudio'r pynciau a ganlyn. Mae pob pwnc yn cynnwys llawer o drafod yn y dosbarth a rhyngweithio ymysg dysgwyr. Caiff yr holl fodiwlau eu dysgu gan staff profiadol sydd â phrofiad helaeth o weithio yn eu maes.

  • Datblygu'ch Hun fel Ymarferydd Effeithiol ym maes AD, Dysgu neu Ddatblygu
  • Deall Sefydliadau a Rôl AD
  • Cofnodi, Dadansoddi a Defnyddio Gwybodaeth ym maes AD
  • Ategu Arferion Da wrth Reoli Cysylltiadau Cyflogaeth
  • Canfod Talent
  • Paratoi a Chynllunio Gweithgareddau Dysgu a Datblygu
  • Meithrin Sgiliau Hyfforddi ar gyfer y Gweithle.


Y derbyniad nesaf ar gyfer y cwrs hwn fydd Chwefror 2022.

Gofynion mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs. Fodd bynnag, bydd gofyn cael cadarnhad bod gan y myfyrwyr y sgiliau sylfaenol angenrheidiol a'u bod yn gallu bodloni gofynion y cwrs o ran asesu.

Yn ogystal, bydd gofyn i chi fod yn aelod o'r CIPD trwy gydol y cwrs. Mae'n bosib y bydd gofyn i chi fod yn aelod am ail flwyddyn. Ar hyn o bryd, mae'n costio £165 i ymaelodi am flwyddyn (ond gall CIPD newid y gost). Mae hyn ar ben eich ffioedd cwrs.

Bydd gofyn hefyd i chi brynu gwerslyfr craidd. Yn ystod y cwrs, cewch restri o ddeunyddiau darllen eraill a argymhellir.

Mae Grŵp Llandrillo Menai'n deall ei bod yn bosib nad yw rhai myfyrwyr wedi astudio ers tro, ac felly cynigir cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr newydd.

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Defnyddir amrediad eang o ddulliau dysgu i gyflwyno cwrs y Dystysgrif mewn Gweithio ym maes Adnoddau Dynol. Yn ogystal â gwersi yn y dosbarth, bydd dau 'Ddiwrnod Sgiliau' lle cewch roi'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu yn y dosbarth ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn a meithrin eich sgiliau arwain a rheoli.

Asesiad

Ym mhob pwnc, cewch eich asesu drwy gyfrwng aseiniad ffurfiannol. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Dilyniant

Diploma CIPD mewn Rheoli ym maes Adnoddau Dynol.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Proffesiynol

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Business and Management

Dwyieithog:

n/a

Business and Management

Myfyrwyr yn siarad mewn ystafell ddosbarth