Prentisiaethau mewn Harddwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Dysgu seiliedig ar waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
18 mis
Prentisiaethau mewn HarddwchPrentisiethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r fframwaith hwn yn cynnig prentisiaethau ar gyfer llwybr dysgu yn seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant harddwch, gan ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.
Yn dibynnu ar y llwybrau a ddilynwyd a'r lefel a gyrhaeddwyd, bydd dysgwyr sy'n cwblhau prentisiaethau yn cymryd swyddi fel:
Therapydd harddwch iau, triniwr dwylo neu ymgynghorydd gofal y croen a cholur (Prentisiaeth Sylfaen)
Therapydd harddwch, therapydd electrolysis, tylinwraig neu artist colur (Prentisiaeth)
Gellir cael gyrfa mewn salonau harddwch, ysbytai, cartrefi gofal, llongau teithio, sba neu glwb iechyd neu drwy hunan liwtio.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, ond mae profiad ym maes Trin Gwallt a Harddwch yn ddymunol.
- Rhaid i'r prentisiaid fod â chyflogwr sy'n gallu ymdrin â'r meini prawf NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle
- Nid yw dysgwyr y cyrsiau i therapyddion harddwch a thechnegwyr ewinedd yn dod i weithdai ymarferol a sesiynau theori. Bydd angen i'r salon ddarparu'r hyfforddiant technegol.
- Bydd Asesydd yn delio â'r holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion yn seiliedig ar theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiethau
Lefel:
2+3
Dwyieithog:
n/a