Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Celf a Dylunio)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Parc Menai
  • Dull astudio:
    Llawn amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Diploma Mynediad i Addysg Uwch (Celf a Dylunio)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Parc Menai

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi fynd ymlaen i Addysg Uwch? Ydych chi am baratoi ar gyfer astudio at radd mewn celf a dylunio neu bwnc perthnasol? Ar y cwrs hwn, cewch y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch perthnasol.

Nod Diplomâu Mynediad i AU Cymru Gyfan yw rhoi i chi'r sgiliau sy'n angenrheidiol i fynd ymlaen i ddilyn rhaglen addysg uwch yn llwyddiannus. Fe'u bwriadwyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cael profiad sylweddol o fywyd ers iddynt gwblhau eu haddysg orfodol.

Byddwch yn astudio pynciau fel: Tecstilau, Graffeg, Dylunio 3D, Celfyddyd Gain, Serameg a Ffotograffiaeth.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Portffolio o waith Celf a Dylunio yn unol â gofynion y llwybr dilyniant i brifysgol. Dylech fod wedi cael profiad mewn sgiliau bywyd perthnasol am o leiaf dair blynedd ar ôl gadael addysg orfodol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (Moodle).

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Bydd holl fodiwlau'r pynciau academaidd yn cynnwys o leiaf un ymarfer dibaratoad y bydd gofyn ei gwblhau mewn amser penodol.

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i ddilyn nifer o raglenni yng Ngrŵp Llandrillo Menai, gan gynnwys:

  • BA (Anrh) Celfyddyd Gain, sydd ar gael ym Mharc Menai, Bangor
  • Gradd Sylfaen (FdA) Celf a Dylunio, sydd ar gael ym Mharc Menai (Bangor)
  • Gradd Sylfaen (FdA) Ffotograffiaeth, sydd ar gael yn Llandrillo-yn-Rhos.

Gallech hefyd fynd ymlaen i ddilyn cwrs Addysg Uwch ym maes Celf mewn sefydliad arall, neu chwilio am swydd yn y sector creadigol e.e. fel Dylunydd Graffig neu Ddarlunydd.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Dwyieithog:

n/a