A yw'r cwrs yn iawn i mi?
Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Arwain a Rheoli'n ddelfrydol i unigolion sy'n ysgwyddo cyfrifoldebau rheoli ond nad ydynt wedi cael hyfforddiant ffurfiol, ac sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu medrau.
Mae'n arbennig o addas i arweinwyr tîm sydd am gael dyrchafiad i'r lefel reoli nesaf, ac i reolwyr y mae gofyn iddynt arwain pobl drwy newid sefydliadol, toriadau cyllidebol neu sefyllfaoedd anodd eraill.
O'ch safbwynt chi, manteision dilyn y cwrs hwn yw
- Dysgu amrywiaeth o sgiliau arwain a rheoli allweddol
- Defnyddio sgiliau newydd yn eich swydd
- Gwella'ch gallu i arwain
- Cymell ac ennyn diddordeb timau, a rheoli cysylltiadau'n hyderus
- Datblygu'ch sgiliau arwain gan ddefnyddio'ch gwybodaeth, eich gwerthoedd a'ch cymhellion eich hun
- Cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant i arweinwyr timau a darpar reolwyr
O safbwynt eich cyflogwr, manteision dilyn y cwrs hwn yw:
- Rheolwyr effeithiol a hyderus
- Cysylltiadau a chyfathrebu gwell mewn timau
- Gweithio yn well mewn tîm a gwell arweinyddiaeth
- Canlyniadau mesuradwy: mae'r asesu yn y gweithle'n sicrhau y caiff y sgiliau newydd eu trosglwyddo'n effeithiol i'ch busnes.
Dyddiadau'r cwrs:
Dysgu O Bell / Remote Learning
Gofynion mynediad:
Does yna ddim gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd cyfranogwyr yn:
- Gweithio fel rheolwyr llinell gyntaf neu'n awyddus i gael gwaith fel rheolwyr
- Meddu ar Sgiliau Sylfaenol, Llythrennedd a Rhifedd digonol er mwyn gallu elwa i'r eithaf o’r rhaglen
- Cael cefnogaeth eu cyflogwyr, gyda neu heb nawdd
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad:
Cyflwynir y cwrs ar-lein, mae wedi ei arwain gan diwtor drwy gyfuniad o sesiynau wedi eu hamserlennu yn cynnwys y canlynol:
- Pecyn cyflwyno ar-lein*
- Gweminarau (sesiynau addysgu proffesiynol wedi eu harwain gan diwtor ar-lein)
- Setiau dysgu gweithredol (grŵp ac unigol).
- Trafodaethau proffesiynol
- Astudiaethau achos
- Cwisiau
- Cyflwyniadau
- Astudio personol dan gyfarwyddyd
- Sesiynau Tiwtorial personol 1-2-1
* Bydd y pecyn cyflwyno ar-lein yn eich ymgyfarwyddo’n llwyr gyda'r holl offer a sut i gael mynediad iddynt. Byddwch yn derbyn hyn unwaith byddwch wedi cofrestru ar y cwrs ond cyn i chi ddechrau'r sesiynau a addysgwyd. Cewch hefyd ddefnyddio cyfleusterau amgylchedd ddysgu rhith-wirionedd lle y ceir eich holl adnoddau dysgu, a fydd yn eich cefnogi'n llawn drwy gydol eich astudiaethau
** Dylid nodi fod gliniadur/cyfrifiadur, meicroffon, camera a mynediad i'r rhyngrwyd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen hon. Nid yw ffonau symudol a PDA's yn addas ac ni fyddant yn darparu profiad dysgu da.
Asesiad:
Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:
- Aseiniadau seiliedig ar waith
- Cyflwyniadau llafar
- Adolygiadau adfyfyriol
Dilyniant:
Os gwnewch gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch fynd ymlaen i ddilyn cwrs pellach neu i wneud cynnydd yn eich gwaith. Os ydych eisoes yn rheolwr, bydd y cwrs yn eich helpu i fod yn rheolwr effeithiol ac effeithlon. Byddwch yn datblygu'ch arferion proffesiynol ac mae'n bosib y gallwch anelu at gael dyrchafiad yn rheolwr canol.
Yn addysgol, y cam rhesymegol nesaf fyddai cwblhau Tystysgrif a Diploma Lefel 3 yr ILM mewn Arwain a Rheoli. Wedi i chi gwblhau’r Diploma Lefel 3, gallwch fynd ymlaen i astudio ar gyfer Dyfarniad Lefel 4 yr ILM mewn Arwain a Rheoli. Bydd y dyfarniad hwn yn eich paratoi i ysgwyddo cyfrifoldebau rheolwr canol.