A yw'r cwrs yn iawn i mi?
Anelir y cwrs hwn at unigion sydd â swydd sy'n cynnwys elfen o farchnata, neu rai sydd am ddysgu rhagor am farchnata a chael gyrfa yn y maes.
Mae'r modiwl hwn yn cynnig dealltwriaeth o'r prif gysyniadau a'r derminoleg a ddefnyddir ym maes marchnata. Cynigir gwybodaeth a dealltwriaeth o bwrpas a gwaith marchnata mewn sefydliadau, ac archwilir y ffactorau sy'n dylanwadu ar ymddygiad y defnyddiwr. Nodir prif elfennau'r amgylchedd marchnata gan edrych ar sut i gasglu a defnyddio gwybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â'r amgylchedd marchnata. Amlinellir y cysyniadau a'r elfennau sy'n rhan o gyfuniad marchnata a sut caiff y rhain eu rhoi ar waith.
Mae manteision dilyn cwrs CIM yn cynnwys:
- Ennill cymhwyster proffesiynol cydnabyddedig a all arwain at swyddi a chyfleoedd newydd o ran gyrfa
- Ennill sgiliau marchnata newydd
- Cyfle i roi eich sgiliau newydd ar waith
- Meithrin eich gallu i farchnata'n broffesiynol
- Meithrin eich sgiliau cyfathrebu â chwsmeriaid
Gofynion mynediad:
Nid oes angen profiad blaenorol.
Cyflwyniad:
Sesiynau yn y coleg, gwaith dosbarth, gwaith grŵp, astudio personol, cefnogaeth tiwtor i gwblhau aseiniadau seiliedig ar waith.
Asesiad:
Byddwch yn cwblhau un aseiniad sy'n cynnwys sawl tasg wahanol.
Dilyniant:
Tystysgrif Sylfaen mewn Marchnata