Nid oes angen dewis pob pwnc wrth ymgeisio am Lefel A. Bydd cyfle i chi drafod eich pynciau dewisol yn ystod eich cyfweliad.

A yw'r cwrs yn iawn i mi?

Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau gwyddonol ar lefel uwch? Mae Lefel A Cemeg yn bwnc allweddol wrth baratoi ar gyfer y rhan fwyaf o yrfaoedd o natur wyddonol, ac fe'i hystyrir yn fuddiol iawn fel cefndir i ddilyn gyrfa yn y byd ariannol neu fusnes.

Mae hefyd yn bwnc gwerthfawr a diddorol yn ei rinwedd ei hun. Mae Cemeg yn rhan greiddiol o Wyddoniaeth. Golyga astudio’r byd naturiol er mwyn canfod patrymau cemegol ymddygiadau.

Mae'r cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o gemeg, y cysyniadau sylfaenol a'u goblygiadau ymarferol. Mae hefyd yn cynnwys agweddau ar beirianneg ac yn darparu gwybodaeth sylfaenol ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd. Mae'n ffurfio baratoad gwerthfawr ar gyfer Addysg Uwch, a sgiliau rhesymegol, ymchwilio trefnus yn berthnasol i bob disgyblaeth.

Mae'r cwrs yn addas os ydych yn fyfyriwr ymroddedig ac wedi ennill graddau Mathemateg a Cemeg/Gwyddoniaeth dda ac ar lefel TGAU. Bydd y cwrs yn gwella eich diddordeb yn y pwnc a'i chymwysiadau ehangach, sy'n eich galluogi i ragori. Dylai pob myfyriwr fod â diddordeb mewn gwyddoniaeth a'i chymwysiadau ehangach, a rhaid iddynt fod yn barod i ddarllen o amgylch y pwnc.

Gall ddilyn y cwrs fel rhan o raglen lawn-amser o astudio ar y cyd â phynciau eraill AS, neu o bosibl â chymwysterau Lefel 3 eraill. Mae Cemeg yn cyfuno'n arbennig o dda gyda phynciau gwyddonol eraill, ond bydd ein staff yn barod i'ch helpu i lunio rhaglen addas ar gyfer eich anghenion.

Gofynion mynediad:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf), Mathemateg (Gradd B yn ddymunol), Cemeg (Gradd B) NEU Gwyddoniaeth: Dyfarniad Dwbl (Gradd BB)
  • Nid yw TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol yn cael ei dderbyn
  • Cyfweliad
  • Os gwnewch yn ddigon da yn y Lefel AS, cewch fynd ymlaen i astudio ar gyfer Lefel A lawn
  • Rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr hŷn nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol

Cyflwyniad:

Ystyrir bod myfyrwyr yn bobl greadigol sy’n gwneud eu synnwyr eu hunain o ffenomenâu y dônt ar eu traws. Mae’r cwrs yn cynnwys cymaint o ddysgu drwy brofiad ag sy’n bosib. Adlewyrchir hyn yn y gweithgareddau dysgu sy’n cynnwys:

  • gweithio mewn grwpiau
  • astudio’n annibynnol
  • adrodd
  • darllen
  • trafod
  • ymweliadau addysgol
  • MOODLE (amgylchedd dysgu rhithiol)
  • Dysgu Cyfunol (defnyddio rhaglenni dysgu digidol yn annibynnol ac yn y labordy)

Asesiad:

Asesir y Lefel AS yn ystod y flwyddyn gyntaf ac asesir y Lefel A yn ystod yr ail flwyddyn.

  • AS: 2 arholiad ddiwedd Mai/dechrau Mehefin, ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (yn werth 40% o’r Lefel A gyfan); ac
  • A2: Arholiad Ymarferol - mis Mawrth yr ail flwyddyn, a 2 arholiad fis Mehefin yr ail flwyddyn (yn werth 60% o’r Lefel A gyfan).

Dilyniant:

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster ychwanegol a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.

Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS ac yn gallu gwneud cais ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau, yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth, a bod eich meddwl yn rhesymegol a bydd sgiliau ymarferol yn cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr.

Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau mewn pwnc cysylltiedig, mae yna gyrsiau gradd ar gael mewn cemeg, peirianneg gemegol, biocemeg, gwyddoniaeth fiomoleciwlaidd, gwyddoniaeth fforensig a gwyddorau sy'n gysylltiedig â bwyd.

Mae'r llwybrau gyrfaol a gysylltir â Lefel A mewn Cemeg yn cynnwys Cemeg, Ynni Amgen, Peirianneg Gemegol, y Gwasanaeth Iechyd, Meteleg, Gwyddoniaeth Amgylcheddol, y Diwydiant Niwclear, Petroleg Biocemeg, Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Gwyddoniaeth Filfeddygol a Meddygaeth.

Byddwch hefyd mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa mewn addysgu, y lluoedd arfog neu yn y diwydiant cosmetig. Bydd eich astudiaethau ar y cwrs Lefel A yn eich helpu i wneud dewis gwybodus gan yr opsiynau sydd ar gael.

Gwybodaeth ychwaneol yn ôl campws/cwrs:

  • Bangor

    Gwybodaeth uned 

    AS Uned 1: IAITH CEMEG, STRWYTHUR MATER AC ADWEITHIAU SYML

    Mae'r uned hon yn ymdrin â’r meysydd astudio a ganlyn:

    Fformiwlâu a hafaliadau, syniadau sylfaenol ynghylch atomau, cyfrifiadau cemegol, bondio, adeileddau solet, Y Tabl Cyfnodol ac ecwilibria syml ac adweithiau asid-bas.

    AS UNED 2: EGNI, CYFRADD A CHEMEG CYFANSODDION CARBON

    Thermocemeg, cyfraddau adweithio, effaith ehangach cemeg, cyfansoddion organig, hydrocarbonau, halogenoalcanau, alcoholau ac asidau carbocsilig a dadansoddi cyfrannol.

    A2 UNED 3: CEMEG FFISEGOL AC ANORGANIG

    Rhydocs a photensial electrod safonol, adweithiau rhydocs, cemeg y bloc-p, cemeg y metelau trosiannol bloc-d, cineteg gemegol, newidiadau enthalpi ar gyfer solidau a hydoddiannau, entropi a dichonoldeb adweithiau, cysonion ecwilibriwm ac ecwilibria asid-bas

    A2 UNED 4: CEMEG ORGANIG A DADANSODDI

    Stereoisomeredd, aromatigedd, alcoholau a ffenolau, aldehydau a chetonau, asidau carbocsilig a'u deilliadau, aminau, asidau amino, peptidau a phroteinau, synthesis organig a dadansoddi.

  • Dolgellau

  • Pwllheli

  • Y Rhyl

  • Llandrillo-yn-Rhos