A yw'r cwrs yn iawn i mi?

Ydych chi’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur a thrafnidiaeth?

Mae'r cwrs hwn yn darparu cefndir technegol ac academaidd mewn technoleg cerbydau. Mae'n darparu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio yn y diwydiant a mynd ymlaen i astudiaeth bellach.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cael swydd yn y diwydiant cerbydau. Mae'n canolbwyntio ar ddysgu drwy wneud gwaith ymarferol mewn gweithdai realistig a lleoliad gwaith yn y diwydiant.

Mae'r cwrs wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Sgiliau'r Sector (SSC) gan sicrhau bod y cwrs yn bodloni gofynion ansawdd y diwydiant.

Gofynion mynediad:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af) gyda gradd D neu E,
  • neu 
  • Diploma Lefel 1 mewn pwnc perthnasol.
  • Cyfweliad.

Cyflwyniad:

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein
  • Ymweliadau â sioeau diwydiant a masnach

Asesiad:

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiad ymarferol mewnol
  • Asesiad ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasg byr i ddysgwyr i’w llenwi’n annibynnol

Dilyniant:

Os gwnewch gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy’n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant cerbydau.

O ganlyniad i ddatblygiadau technolegol, mae cwmnïau ym maes cynhyrchu, manwerthu, dosbarthu, gwasanaethau a thrwsio wedi damwain wastad yn ceisio cyflwyno pobl ifanc i'r diwydiant hwn sy'n newid o hyd. Bydd gennych sgiliau mewn nifer o feysydd fydd yn gweddu unrhyw rôl ble mae angen rhoi sylw i fanylion.

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch.

Gallwch hefyd ddewis gwneud cais am Brentisiaeth Fodern.