Gwybodaeth Bwysig ynghylch Gofynion Mynediad a Cheisiadau
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, cewch wahoddiad i ddigwyddiad rhithwir a gynhelir ar ddechrau 2021. Yn y digwyddiad hwn cewch gyfle i ddod i wybod rhagor am eich cwrs, i ofyn cwestiynau ac i gwrdd â'rstaff.
A yw'r cwrs yn iawn i mi?
Nod y cwrs hwn yw magu hyder wrth ddefnyddio sgiliau ysgrifennu academaidd a chyflwyno gwaith ar lafar cyn symud ymlaen i Addysg Uwch neu gyflogaeth.
Bydd y cwrs yn ymdrin â:
- Beth yw sgiliau lefel uwch a pham fod eu hangen;
- Strategaethau ar gyfer dysgu: gwneud nodiadau, rheoli amser, darllen ar gyfer astudiaeth academaidd;
- Cael mynediad i ffynonellau gwybodaeth perthnasol, eu hadnabod a'u gwerthuso drwy ddefnyddio adnoddau priodol megis llyfrgell a TGCh;
- Pam fod cynllunio a strwythur yn bwysig - strwythuro traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau;
- Sut y gallwch chi gyflwyno gwybodaeth - meddalwedd cyflwyno, prosesydd geiriau, cyfarpar gweledol;
- Beth yw ysgrifennu academaidd - eglurder, cysondeb, dim jargon, cefnogi dadleuon a defnyddio tystiolaeth;
- Cyflwyniad i feddwl yn feirniadol;
- Beth yw llên-ladrad a hawlfraint a sut i osgoi llên-ladrad drwy ddyfynnu a chyfeirnodi;
- Deinameg grŵp a chydweithredu, gan weithio gyda'ch gilydd tuag at nod terfynol
Ffioedd
Ewch i'r dudalen Cymorth Ariannol a Chyllid am fwy o wybodaeth.
Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).
Dyddiad cychwyn
Mis Medi
Gofynion mynediad:
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cyflwyniad:
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd myfyrwyr yn:
- deall yr angen i gynllunio, strwythuro a defnyddio sgiliau ysgrifennu academaidd wrth gyflwyno safbwyntiau, gan gynnwys sut i gydnabod ffynonellau syniadau a/neu safbwyntiau eraill
- dangos sgiliau wrth gael mynediad i wybodaeth, ac wrth werthuso a chofnodi gwybodaeth o ystod o ffynonellau
- mabwysiadu dulliau priodol ar gyfer ysgrifennu a chyflwyno gwaith academaidd gan ddefnyddio confensiynau wrth ddyfynnu a chyfeirnodi
- mabwysiadu strategaethau priodol ar gyfer cwblhau tasgau dysgu wrth weithio'n unigol ac wrth weithio ar y cyd ag eraill
- defnyddio cyfarpar gweledol priodol i ategu cyflwyniad llafar
Bydd darlithoedd/gweithdai yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau mewn amgylchedd cyfranogol a rhyngweithiol. Bydd myfyrwyr yn dysgu drwy addysgu ffurfiol a gweithgareddau rhyngweithiol ar-lein. Treulir 30 awr yn dysgu yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â dysgu pellach dan gyfarwyddyd.
Asesiad:
- Portffolio o dasgau (100%)
- Traethawd Grŵp (40%), cyfanswm o 1000 gair. Marc grŵp yw hwn.
- Cyflwyniad Grŵp wedi'i seilio ar y traethawd (20%), 10 munud, a 5 munud arall ar gyfer cwestiynau. Marc grŵp yw hwn.
- Crynodeb ysgrifenedig unigol (40%), rhwng 300 a 500 o eiriau, sy'n dangos dealltwriaeth o pam ei bod yn bwysig cynllunio, strwythuro, defnyddio iaith academaidd briodol a chyfeirnodi, a sut mae cyflawni hyn. Marc unigol yw hwn.
Dilyniant:
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau Addysg Uwch sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.