A yw'r cwrs yn iawn i mi?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw oedolyn sydd eisiau gweithio ar ei sgiliau Saesneg neu Fathemateg sylfaenol hyd at Lefel 2. Bydd yn rhoi cyfle i chi wella'r sgiliau rydych wedi'u hanghofio ers dyddiau ysgol. Mae'r cwrs ar gyfer unrhyw un sydd am fagu hyder cyn dechrau ar gwrs arall neu sydd am wella ei sgiliau Saesneg neu Fathemateg.
Yn ogystal â'n campysau yn Abergele ac yng Nghanolfan Ddysgu'r Bae ym Mae Colwyn, caiff sesiynau eu cynnal mewn llyfrgelloedd lleol: Conwy, Llanrwst, Llandudno, y Rhyl a Phrestatyn.
Dyddiadau'r cwrs:
Llyfrgell Bae Colwyn
Conwy Comrades Club
Conwy Library
HWB Dinbych
Llandudno Library
Llanrwst Library
Prestatyn Library
Rhyl Library
Gofynion mynediad:
Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cynigir llefydd yn amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad:
Sesiynau wythnosol
Dilyniant:
Sgiliau Hanfodol neu TGAU