Nid oes angen dewis pob pwnc wrth ymgeisio am Lefel A. Bydd cyfle i chi drafod eich pynciau dewisol yn ystod eich cyfweliad.

A yw'r cwrs yn iawn i mi?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu sut i raglennu cyfrifiaduron ac mewn dod i ddeall systemau cyfrifiadurol yn well? Ar y cwrs hwn, cewch gyfleoedd i ddatblygu meddalwedd cyfrifiadurol mewn iaith raglennu safonol, fel Java, yn ogystal â thudalennau gwe a chronfeydd data. Bydd yn eich cyflwyno i'r agweddau technegol ar feddalwedd systemau cyfrifiadurol a rhwydweithio.

Gall y cwrs eich paratoi i astudio Cyfrifiadura ar lefel Addysg Uwch. Gall hefyd fod yn baratoad gwerthfawr at yrfa sy'n ymwneud â chyfrifiadura e.e. ym maes gwyddoniaeth, technoleg, busnes neu'r cyfryngau.

Mae gwybodaeth fanylach am Unedau yn yr adran ‘Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs’. 

Gallwch ddilyn y cwrs yn rhan o raglen astudio lawn amser, ar y cyd â phynciau Lefel AS/Lefel A eraill, neu o bosibl gyda chymwysterau galwedigaethol Lefel 3.

Gall myfyrwyr hŷn hefyd ddilyn y cwrs yn rhan-amser.

Gofynion mynediad:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf), Mathemateg (Gradd B yn ddymunol)
  • Cyfweliad
  • Os gwnewch yn ddigon da yn y Lefel AS, cewch fynd ymlaen i astudio ar gyfer Lefel A lawn
  • Rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr hŷn nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol

Cyflwyniad:

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy ar raglennu a chaledwedd cyfrifiadurol
  • Astudiaethau achos ym maes cyfrifiadura
  • Prosiectau myfyrwyr unigol.

Asesiad:

Cewch eich asesu ar waith y flwyddyn gyntaf drwy gyfrwng dau arholiad allanol a gynhelir fis Mehefin:

  • Papur theori sy'n cynnwys agweddau ar systemau cyfrifiadurol a rhaglennu
  • Arholiad ymarferol lle bydd myfyrwyr yn gwneud tasg raglennu.

Cewch eich asesu ar waith yr ail flwyddyn drwy gyfrwng:

  • Papur theori, y byddwch yn ei sefyll fis Mehefin, ar agweddau mwy datblygedig ar systemau cyfrifiadurol a rhaglennu
  • Prosiect rhaglennu ymarferol i'w gyflwyno fis Mai. Y myfyriwr, mewn ymgynghoriad â'i diwtor, fydd yn dewis testun y prosiect.

Dilyniant:

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen. Byddwch yn ennill pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am le ar amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn sawl sefydliad, gan gynnwys Grŵp Llandrillo Menai. Ymhlith y cyrsiau y gallwch eu dilyn, mae cyrsiau gradd mewn Cyfrifiadura a phynciau perthnasol, yn ogystal â sawl dewis arall.

Mae'r cwrs yn baratoad da ar gyfer amrediad o gyrsiau gradd, a gall y sgiliau a ddysgir fod o fudd hefyd i rai sy'n chwilio am waith. Ar y cwrs, cewch lawer o gyfleoedd i feithrin a defnyddio sgiliau allweddol, yn ogystal â gwella'ch agweddau, eich amgyffrediad a'ch gwerthoedd mewn maes sy'n hynod berthnasol i fywyd bob dydd.

Gwybodaeth ychwaneol yn ôl campws/cwrs:

  • Dolgellau

    Bwriadwyd y cymhwyster hwn i roi dealltwriaeth drylwyr o'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadureg, gan ymgorffori'r datblygiadau cyffrous niferus sydd ar droed ar hyn o bryd yn y maes.    

    Caiff myfyrwyr gyfle i ddadansoddi a datrys problemau drwy gael profiad ymarferol o ddylunio, datblygu a phrofi meddalwedd cyfrifiadurol. 

    Yn ystod y cwrs, bydd y myfyrwyr yn meithrin amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o fudd iddynt mewn swydd ac wrth astudio ar lefel Addysg Uwch. Ymhlith y sgiliau hyn mae, meddwl yn rhesymegol, dylunio'n greadigol, datrys problemau, sgiliau mathemategol a sgiliau cyfathrebu, ynghyd â deall yr amrywiol swyddogaethau pwysig sydd gan gyfrifiadura yn ein cymdeithas heddiw.

    Gwybodaeth am yr Uned

    Cyfrifiadureg Lefel AS

    Yn y fanyleb AS, ceir dwy uned sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau cyfoes.

    Uned 1:  Hanfodion Cyfrifiadureg

    Uned 2:  Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau

    Mae cysylltiad agos rhwng astudio theori egwyddorion cyfrifiadurol a'r defnydd ymarferol a wneir o'r cysyniadau hyn ym maes cyfrifiadureg.  Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwlau, mae:

    Caledwedd a Chyfathrebu

    • Astudio cydrannau caledwedd systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys cof electronig, dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu, a storio data eilaidd.
    • Y gylchred cywain-gweithredu, gan ddangos sut mae'r prosesydd yn rhedeg rhaglenni. 
    • Rhwydweithio, gan gynnwys astudio'r Rhyngrwyd. Defnyddio rhwydweithiau cyfathrebu, gan ddefnyddio protocolau rhwydweithio.
    • Trawsyrru data'n gyfresol a pharalel.

    Cynrychioli data a mathau o ddata

    • Y system rhifau deuaidd, a storio nodau ar ffurf ddeuaidd.
    • Technegau rhifyddol deuaidd.
    • Cymhwyso gweithrediadau rhesymegol wrth raglennu, gan ddefnyddio algebra Boole.

    Strwythurau data a threfnu data

    • Defnyddio araeau a chofnodion, a dethol strwythurau data priodol ar gyfer sefyllfaoedd penodol.
    • Meistr-ffeiliau a ffeiliau trafod. Cyrchu ffeiliau dilyniannol, mynegedig ac ar hap.
    • Diogelwch ffeiliau, gan gynnwys ffeiliau wrth gefn, cenedlaethau o ffeiliau a logiau trafod.
    • Dilysu a gwirio data

    Systemau cronfeydd data

    • Cronfeydd data perthynol, modelu perthynas endidau a'r defnydd a wneir o hyn wrth ddadansoddi problemau sy'n ymwneud â phrosesu data.

    Y system weithredu

    • Rôl y system weithredu o ran rheoli adnoddau, gan gynnwys: dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu, prosesau, diogelu cof a storfa wrth gefn.
    • Swp-brosesu, rheoli amser real a systemau trafodion amser real.

    Algorithmau a rhaglenni

    • Defnyddio cysonion a newidynnau mewn algorithmau a rhaglenni.
    • Gweithrediadau mathemategol a rhesymegol mewn rhaglenni. Nodweddion algorithmau trefnu a chwilio.
    • Datblygu rhaglenni sy'n dethol ac ailadrodd.
    • Manteision dull modiwlaidd o fynd i'r afael â rhaglennu.

    Egwyddorion rhaglennu

    • Nodweddion gwahanol fathau o ieithoedd rhaglennu, gan gynnwys ieithoedd trefniadol, gwrthrych-gyfeiriadol, gweledol a thagio.
    • Y dull gwrthrych-gyfeiriadol o raglennu, a'r berthynas rhwng gwrthrychau, dosbarthiadau a dulliau.
    • Y gwahaniaethau rhwng ieithoedd lefel uchel ac ieithoedd lefel isel. Adnabod sefyllfaoedd sy'n gofyn am ddefnyddio iaith lefel uchel neu iaith lefel isel.

    Dadansoddi systemau

    • Pwrpas astudiaeth dichonoldeb o ran sicrhau y bydd ateb arfaethedig yn gost-effeithiol, wedi ei ddatblygu'n unol ag amserlen y cytunwyd arni ac o fewn cyllideb y cytunwyd arni.
    • Dulliau ymchwilio a dadansoddi, gan gynnwys arsylwi uniongyrchol, holiaduron, astudio dogfennau sy'n bodoli'n barod a chynnal cyfweliadau.
    • Dethol meddalwedd a chaledwedd addas i fynd i'r afael â gofynion problem.
    • Gwahanol ddulliau trosi:  uniongyrchol, peilot, graddol a pharalel.
    • Profi rhaglenni gan brofi alpha, beta a derbyniad.
    • Cynnal a chadw perffeithiol, addasol a chywirol.

    Meddalwedd

    • Defnyddio Amgylchedd Datblygu Integredig wrth ddatblygu a dadfygio rhaglenni.
    • Crynoyddion, dehonglwyr a chydosodyddion
    • Meddalwedd diwydiannol, technegol a gwyddonol, gan gynnwys e.e. rôl y cyfrifiadur o ran rhagweld y tywydd, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, roboteg a'r defnydd a wneir o graffeg ac animeiddio a grëwyd ar gyfrifiadur.

    Rhaglennu ymarferol

    • Dylunio, dogfennu a datblygu prototeip ymarferol i ddatrys problem benodol.
    • Dangos dealltwriaeth o god rhaglen drwy gynhyrchu rhestri anodedig.
    • Gwerthuso rhaglenni er mwyn nodi nodweddion llwyddiannus, ac awgrymu gwelliannau ar gyfer agweddau llai llwyddiannus y system.

    Diogelwch data a phrosesau cyfanrwydd

    • Y peryglon a all ddeillio o ddefnyddio cyfrifiaduron o ran preifatrwydd a diogelwch ffeiliau a data personol.
    • Prosesau sy'n amddiffyn diogelwch a chyfanrwydd data, gan gynnwys: lefelau mynediad a ganiateir, cyfrineiriau mynediad a mecanweithiau diogelu rhag ysgrifennu.
    • Cynllunio ar gyfer trychineb, ymdrin â bygythiadau posibl i systemau cyfrifiadurol.
  • Pwllheli

    Bwriadwyd y cymhwyster hwn i roi dealltwriaeth drylwyr o'r cysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â chyfrifiadureg, gan ymgorffori'r datblygiadau cyffrous niferus sydd ar droed ar hyn o bryd yn y maes.    

    Caiff myfyrwyr gyfle i ddadansoddi a datrys problemau drwy gael profiad ymarferol o ddylunio, datblygu a phrofi meddalwedd cyfrifiadurol. 

    Yn ystod y cwrs, bydd y myfyrwyr yn meithrin amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o fudd iddynt mewn swydd ac wrth astudio ar lefel Addysg Uwch. Ymhlith y sgiliau hyn mae, meddwl yn rhesymegol, dylunio'n greadigol, datrys problemau, sgiliau mathemategol a sgiliau cyfathrebu, ynghyd â deall yr amrywiol swyddogaethau pwysig sydd gan gyfrifiadura yn ein cymdeithas heddiw.

    Gwybodaeth am yr Uned

    Cyfrifiadureg Lefel AS

    Yn y fanyleb AS, ceir dwy uned sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau cyfoes.

    Uned 1:  Hanfodion Cyfrifiadureg

    Uned 2:  Rhaglennu Ymarferol i Ddatrys Problemau

    Mae cysylltiad agos rhwng astudio theori egwyddorion cyfrifiadurol a'r defnydd ymarferol a wneir o'r cysyniadau hyn ym maes cyfrifiadureg.  Ymhlith y pynciau yr ymdrinnir â hwy yn y modiwlau, mae:

    Caledwedd a Chyfathrebu

    • Astudio cydrannau caledwedd systemau cyfrifiadurol, gan gynnwys cof electronig, dyfeisiau mewnbynnu ac allbynnu, a storio data eilaidd.
    • Y gylchred cywain-gweithredu, gan ddangos sut mae'r prosesydd yn rhedeg rhaglenni 
    • Rhwydweithio, gan gynnwys astudio'r Rhyngrwyd.
    • Defnyddio rhwydweithiau cyfathrebu, gan ddefnyddio protocolau rhwydweithio.