A yw'r cwrs yn iawn i mi?
Mae’r Dystysgrif mewn Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig yn rhoi’r wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch i fodloni’r rheoliadau adeiladu ar gyfer cynnal a chadw a gosod systemau gwres canolog. Byddwch yn archwilio’r angen am effeithlonrwydd ynni yn y cartref ac yn ennyn sgiliau i wella, i hyrwyddo ac i gynghori eich cwsmeriaid ar eu hopsiynau.
£195
Dyddiadau'r cwrs:
Llandrillo-yn-Rhos
Gofynion mynediad:
Mae’r Dystysgrif mewn Effeithlonrwydd Ynni - Gwresogi Domestig wedi’i hanelu at blymwyr, gosodwyr nwy ac unrhyw un sy’n rhan o’r sector plymio a gwresogi ac yn gosod boeleri cyddwyso.
Asesiad:
Dyluniwyd yr hyfforddiant a’r asesiad i gydymffurfio â gofynion Dogfen Gymeradwy L1 y Rheoliadau Adeiladu. Theori yn unig a llyfr agored.
Dilyniant:
Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai