Mae'r Radd Sylfaen hon yn cynnig addysg i bobl sy'n gweithio ym maes astudiaethau plentyndod yn barod, mewn amrywiaeth o rolau ffurfiol ac anffurfiol. Mae'n astudio ystod cynhwysfawr o fodiwlau, gan gynnwys meysydd pynciau craidd a meysydd galwedigaethol arbenigol.
Mae'r cwrs wedi'i ddyfeisio i'ch helpu i symud ymlaen yn eich gyrfa drwy roi hyfforddiant ichi sy'n bwysig i gyflogwyr. Yn anad dim, mae'n rhoi cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth academaidd ichi. Mae hyn yn gwella'ch arbenigedd drwy eich helpu i bwyso a mesur eich gwaith proffesiynol yn feirniadol.
Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu'r sgiliau galwedigaethol sydd eu hangen ar gyflogwyr mewn meysydd Blynyddoedd Cynnar a Chymorth Dysgu, neu lle bynnag y mae dimensiwn plentyndod a chymorth dysgu ar swydd. Byddwch yn adeiladu ar eich sgiliau presennol ac yn ennill cymhwyster cydnabyddedig i gadarnhau eich gallu.
Gwybodaeth Uned
Mae'r cwrs yn cynnwys y modiwlau canlynol:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
Datblygiad Plant (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw nodi a disgrifio normau datblygiad plentyn nodweddiadol a chysylltu'r rhain, trwy arsylwi, ag ystyriaeth o anghenion datblygiadol unigol. Bydd yn nodi ac yn diffinio ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch datblygiad plant ac yn esbonio sut y cânt eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gofal plant a chymorth dysgu. Yn ogystal, bydd yn nodi ac yn diffinio rôl yr oedolyn wrth gefnogi datblygiad plant. (Arsylwi 100%)
Arferion Cynhwysol ac Arferion sy'n Canolbwyntio ar y Plentyn (10 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl yn dysgu myfyrwyr am hanfodion yr egwyddorion sy'n sail i ddulliau cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y plentyn, gan astudio sut y gall ymarferwyr unigol a sefydliadau ddefnyddio dulliau o'r fath. (Traethawd 100%)
Chwarae a Dysgu (20 credyd, gorfodol)
Mae'r modiwl yn cynnig sylfaen i fyfyrwyr o ran nodi anghenion chwarae a dewisiadau plant a phobl ifanc, rôl oedolion wrth gynllunio a chefnogi i ddiwallu anghenion chwarae plant a phobl ifanc a dealltwriaeth o bwysigrwydd darparu cwricwlwm sy'n seiliedig ar chwarae. (Cyflwyniad unigol 60%, Cynllun Gweithgaredd 40%)
Diogelu Plant (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r arferion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol sy'n llywodraethu diogelu plant a phobl ifanc. Bydd y modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ddamcaniaethau allweddol a themâu cyfredol o fewn yr agenda ddiogelu gyfredol. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth am egwyddorion ac arferion diogelu plant a phobl ifanc, gan gyfeirio'n benodol at sut a pham y mae'r arfer o adrodd a chofnodi cam-drin plant yn hollbwysig o mewn lleoliadau plant a dysgu. (Traethawd 60%, Cyflwyniad grŵp 40%)
Y Plentyn mewn Cymdeithas (20 credyd, gorfodol)
Rhoi cyflwyniad sylfaenol i gymdeithaseg a datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth myfyrwyr o gymdeithaseg plentyndod. Anogir myfyrwyr i ddefnyddio nifer o ddamcaniaethau cymdeithasegol, sydd wedi ennill eu plwyf, i ddeall ac i archwilio'n feirniadol faterion sy'n ymwneud â 'phlentyndod' a'r 'plentyn' ac i edrych ar ffyrdd y cafodd plant a phlentyndod eu hystyried yn ystod blynyddoedd a fu. I gloi, caiff myfyrwyr gyfle i astudio'r effaith a gaiff newidiadau cymdeithasol diweddar ar blant a phlentyndod. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)
Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i gyflawni nifer o dasgau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyflogaeth sy'n ofynnol i fodloni'r safonau a ddisgrifir yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel Uwch. Fe'ch cyflwynir i ofynion y cymhwyster Statws Ymarferydd Plentyndod Cynnar. Byddwch yn cael cyfleoedd niferus i ddatblygu sgiliau ymarferol mewn perthynas â chreu amgylcheddau cynhwysol sy'n meithrin plant ac yn darparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Byddwch hefyd yn cael eich annog i adfyfyrio ar eich datblygiad eich hun yn eich gwaith. (Portffolio Unigol 100%)
Sgiliau Academaidd i Ymarferwyr (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw meithrin sgiliau astudio’r dysgwyr, gan eu galluogi i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig academaidd cadarn, cyflwyno sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwilio sylfaenol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau ysgrifennu academaidd, i ddefnyddio confensiynau academaidd, i chwilio am wybodaeth, i adfyfyrio ac i reoli a rhoi trefn ar eu gwaith. (Portffolio 100%)
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
Dysgu a Datblygu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi i fyfyrwyr y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o ddamcaniaethau ynghylch dysgu. Bydd yn ystyried beth mae addysg gynnar effeithiol yn ei olygu ac yn astudio effaith y damcaniaethau ar arferion. Bydd y myfyrwyr hefyd yn gwerthuso damcaniaethau ymddygiadol ac yn asesu'r modd y maent yn cael eu defnyddio i feithrin ymddygiadau cadarnhaol yn ystod plentyndod cynnar neu mewn lleoliad addysgol. (Traethawd 60%, Astudiaeth Achos 40%)
Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (10 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o'r term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ogystal â chipolwg ar y gwahanol fathau o ADY a all olygu bod ar blant a phobl ifanc angen cefnogaeth. Bydd y modiwl hwn hefyd yn ystyried pwysigrwydd cydnabod sut y gall plant a phobl ifanc fod yn teimlo, a bydd hyn yn cynnwys cyfeiriadau at iechyd a lles, gwydnwch emosiynol a'r damcaniaethau a'r fframweithiau a ddefnyddir i gefnogi ADY. Yn ogystal, bydd y modiwl hwn yn rhoi cipolwg ar ffactorau allanol a phersonol a all effeithio ymhellach ar y plentyn neu'r person ifanc sydd ag ADY. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Unigol 50%)
Cefnogi Dysgu ac Addysgu (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o bolisïau a strategaethau addysgol cyfredol, gan gydnabod safbwyntiau addysgol cystadleuol ac asesu'r cyswllt â blaenoriaethau addysgol cyfredol. Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r cysyniadau a'r egwyddorion sy'n sail i addysgu llythrennedd a rhifedd ar draws yr ystod oedran. (Traethawd 50%, Cyflwyniad Grŵp 50%)
Arwain ar Waith (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw rhoi trosolwg i fyfyrwyr o athroniaethau a damcaniaethau ynghylch arwain y gallant eu defnyddio i gyfiawnhau effeithiolrwydd arwain a rheoli mewn lleoliadau plentyndod a chymorth dysgu, a'r effaith y mae arwain yn ei gael ar ansawdd y canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. (Dyddiadur Myfyriol 100%)
Cyfathrebu a Gweithio ar y Cyd (10 credyd, gorfodol)
Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wahanol fodelau o weithio mewn partneriaeth ac yn nodi'r gwerthoedd sy'n sail i arferion da cydnabyddedig, yn cynnwys hyrwyddo a chynnal partneriaethau a chael gwared ar rwystrau sy'n atal unigolion rhieni rhag cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys deall y materion sy'n ymwneud ag anableddau dysgu ac iechyd meddwl y gellir dod ar eu traws wrth weithio gyda phartneriaethau teuluol a phroffesiynol. (Traethawd 70%, Cyflwyniad Poster 30%)
Datblygiad Personol a Phroffesiynol (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl hwn yw galluogi dysgwyr i gyflawni nifer o dasgau sy'n seiliedig ar wybodaeth a chyflogaeth angenrheidiol i fodloni'r safonau sy’n cael ei ddisgrifio yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Lefel Uwch. Yn ystod y modiwl hwn, byddwch yn datblygu ymhellach y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni Statws Ymarferydd y Blynyddoedd Cynnar, gan ganolbwyntio ar weithio gyda theuluoedd. Byddwch yn cael cyfleoedd niferus i ddatblygu eich dealltwriaeth o ystod o fframweithiau a ddefnyddir mewn lleoliadau, gan ddatblygu sgiliau o ran creu amgylcheddau cefnogol ar gyfer darparu cyfleoedd chwarae, gofal, dysgu ac addysgu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosesau asesu a chynllunio. (Portffolio Unigol 100%)
Sgiliau Ymchwilio (20 credyd, gorfodol)
Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i gymhwyso amrywiaeth o sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i astudiaethau plentyndod a chefnogi dysgu. Bydd gofyn i'r myfyrwyr gael sgiliau o'r radd flaenaf o ran ysgrifennu academaidd a chwilio am wybodaeth a gallu rhoi amrediad o ddulliau ymchwilio dilys ar waith. Bydd y myfyrwyr hefyd yn meithrin dealltwriaeth o foeseg ac yn dysgu sut i ystyried pwysigrwydd moeseg wrth ymchwilio. Bydd y modiwl yn canolbwyntio hefyd ar lunio dadleuon pendant drwy ddefnyddio dulliau ymchwilio, dadansoddi a gwerthuso dilys. (Cynnig Ymchwil 100%)
Cyfleoedd o ran gyrfa:
- Gofalwr Plant
- Gweithiwr Meithrinfa
- Arwain a Rheoli
- Addysgu
- Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd
- Mentor Dysgu
- Athro Ysgol Gynradd
- Athro Ysgol Uwchradd
- Athro Anghenion Addysgol Arbennig
- Gweithiwr Cymdeithasol
- Cynorthwyydd Addysgu
- Gweithiwr Ieuenctid
- Seicotherapydd Plant
- Nyrs Plant
- Gweithiwr Datblygu Cymunedol
- Cwnselydd
- Seicolegydd Addysgol
- Therapydd Iaith a Lleferydd