Nid oes angen dewis pob pwnc wrth ymgeisio am Lefel A. Bydd cyfle i chi drafod eich pynciau dewisol yn ystod eich cyfweliad.

A yw'r cwrs yn iawn i mi?

Hoffech chi ddeall rhagor am grefydd, moeseg ac athroniaeth? Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer amrediad eang o fyfyrwyr sydd am astudio'r meysydd hyn, gan fynd i'r afael â materion personol, moesol, moesegol a chyfoes yr un pryd. Bydd yn eich paratoi ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer Addysg Uwch, gan roi i chi wybodaeth fanwl yn ogystal â sgiliau eang o ran meddwl yn feirniadol a rhesymu.

Mae'r cwrs yn cynnig fframwaith ar gyfer ystyried amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys y berthynas rhwng crefydd a diwylliant, yn ogystal â gwerthoedd moesol unigolion, cymunedau ffydd a chymdeithasau. 

Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau fel rhesymu ynghylch materion sy'n gysylltiedig â gwerthoedd, agweddau a gweithredoedd, yn ogystal â dod i gasgliadau cyfrifol ynghylch damcaniaethau a materion moesol.

Gofynion mynediad:

  • 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) (Gradd B yn ddymunol), TGAU yn un o’r Dyniaethau perthnasol (Gradd B)
  • Cyfweliad
  • Os gwnewch yn ddigon da yn y Lefel AS, cewch fynd ymlaen i astudio ar gyfer Lefel A lawn
  • Rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr hŷn nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol

Cyflwyniad:

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Dysgu yn y dosbarth
  • Darlithoedd
  • Cyflwyniadau
  • Gwaith grŵp
  • Ymchwil

Asesiad:

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar arholiad a chaiff ei hasesu drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau
  • Asesiadau dan reolaeth
  • Cyflwyniadau

Dilyniant:

Beth bynnag a gewch, Lefel A lawn neu Lefel AS, bydd gennych gymhwyster gwerthfawr a fydd o gymorth i chi fynd yn eich blaen.   Byddwch yn cael pwyntiau UCAS a gallwch wneud cais am amrywiaeth o gyrsiau Addysg Uwch mewn llawer o sefydliadau.

Ymhlith y cyrsiau gradd y gallwch wneud cais iw dilyn mae Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth a Diwinyddiaeth, a llawer mwy. Ystyrir Astudiaethau Crefyddol yn bwnc traddodiadol, ac felly mae gan brifysgolion feddwl uchel ohono.

Maer cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd y gallwch eu dilyn ar unwaith neu ar l cyfnod mewn Addysg Uwch.  

Mae Astudiaethau Crefyddol yn addas ar gyfer amryw o alwedigaethau, yn cynnwys swyddi ym maes gwaith datblygu, gwaith yn y gymuned a gofal cymdeithasol. Ar ben hynny,  bydd y sgiliau a ddysgir ar y cwrs yn arbennig o werthfawr mewn amrywiol feysydd fel y gyfraith, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth ac ar gwrs hyfforddi athrawon.

Gwybodaeth ychwaneol yn ôl campws/cwrs:

  • Dolgellau

    UG Uned 1 - Cyflwyniad i Astudiaeth o Grefydd

    Cristnogaeth, crefydd swyddogol y Deyrnas Unedig, fydd yn cael ei astudio yma. Byddwch yn dysgu am rai o hanfodion y ffydd ac yn datblygu nid yn unig eich dealltwriaeth ond eich meddwl critigol yn ogystal wrth ymdrin â natur Duw, awdurdod Y Beibl a hunaniaeth grefyddol ag ati.

    UG Uned 2 - (Rhan A)

    Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg - sut dylid ymdrin â dilemâu moesol yw prif nodwedd yr uned yma wrth i dair damcaniaeth foesegol gael eu hastudio - dyma syniadau gwahanol ar sut i wneud penderfyniad moesol. Cymhwysir y damcaniaethau i faterion sy’n ein hwynebu pob dydd e.e. Ystyrir os yw erthylu, ewthanasia, rhyw tu allan i briodas, arfau niwclear ac arbrofi ar anifeiliaid yn iawn neu ddim. Rhoddir sylw yn arbennig i’r modd caiff y materion hyn eu gweld gan Gristnogion.

    UG Uned 2 - (Rhan B)  

    Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd - A yw Duw yn bodoli? Pam fod drygioni yn y byd? Dyma’r math o gwestiynau sy’n cael eu gofyn yma. Byddwch yn ogystal yn cael y cyfle i ystyried dilysrwydd profiadau crefyddol fel troedigaeth a gweledigaethau.

    U2 Uned 3 - Astudiaeth o Grefydd

    Byddwch yn parhau yma i astudio Cristnogaeth i fwy o ddyfnder gan gynnwys ymdriniaeth o’r Beibl fel Gair Duw ac Iesu Grist fel y gwir Feseia. Byddwch yn ystyried gwerth oesol i bethau hanesyddol - ai dyn yn perthyn i’w gyfnod yn unig oedd Iesu?

    U2 Uned 4 - Crefydd a Moeseg

    Byddwch yn parhau yma i astudio Crefydd a Moeseg i fwy o ddyfnder gan gynnwys astudiaeth o amrywiol ddamcaniaethau moesegol, cymhwyso i faterion fel mudo a’r gosb eithaf ac yn ymdrin â chwestiwn ewyllys rydd.

    U2 Uned 5 - Athroniaeth Crefydd

    A oes y fath beth a gwyrthiau? Ai niwrosis yw cred grefyddol?

    Parhau i ofyn y math yma o gwestiynau a wneir yma. Byddwch yn cael cyfle i fynd i’r afael ag iaith grefyddol ac ystyried dadleuon anffyddwyr yn erbyn cred grefyddol.

  • Pwllheli