Annwyl Ddysgwyr / Rhieni / Gwarcheidwaid,
Ar 8 Ionawr cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai dysgwyr yn parhau i ddysgu ar-lein o bell tan o leiaf 29
Ionawr.
Ar 29 Ionawr bydd Llywodraeth Cymru'n adolygu'r gyfradd heintio ac os na fydd wedi lleihau'n sylweddol byddwn
yn parhau i addysgu ar-lein o bell tan o leiaf ddiwedd hanner tymor Chwefror.
Hoffwn roi gwybod i chi sut y byddwn yn parhau i gefnogi'r dysgwyr yn ystod y cyfnod hwn.
13 - 29 Ionawr – Dysgu ac Asesu o Bell
- Bydd y dysgwyr yn parhau i ddysgu ar-lein o'u cartrefi.
- Bydd yr asesiadau cwrs, a'r asesiadau a'r adolygiadau allanol a drefnwyd yn parhau.
- Hoffwn annog yr holl ddysgwyr i gyflwyno'u gwaith cwrs oherwydd bydd eich tiwtoriaid yn ei ddefnyddio i
roi adborth ar y cynnydd rydych yn ei wneud ar eich cwrs.
- Yn ogystal, bydd yr asesiadau cwrs yn cael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer y Graddau a Aseswyd gan
y Ganolfan pe bai Llywodraeth Cymru'n penderfynu defnyddio'r rhain i ddyfarnu graddau yn yr haf.
- Mae'r cyfnod a neilltuwyd rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill ar gyfer cynnal asesiadau TGAU a Lefel A mewnol
wedi'i ganslo gan Cymwysterau Cymru (gweler y llythyr am ragor o wybodaeth).
- Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am sut y bydd eich graddau'n cael eu pennu cyn gynted ag y bydd
Cymwysterau Cymru wedi cwblhau'r cynlluniau.
13 – 29 Ionawr - Cefnogaeth i Ddysgwyr
- Bydd gwasanaethau lles, cwnsela, cynghori ac arwain, a chymorth ariannol ar gael a gellir eu harchebu
drwy gysylltu â staysafe@gllm.ac.uk
- Bydd y ffreuturau wedi cau ar y campysau ac ni fydd gwasanaeth cludiant y coleg yn rhedeg.
- Bydd y dysgwyr sydd angen dod i'r coleg yn ystod y cyfnod hwn yn gallu defnyddio eu pasys teithio/pasys
Arriva presennol. Os nad oes gan ddysgwr bàs teithio a bod arno angen dod i un o'r safleoedd, bydd y
Gwasanaethau i Ddysgwyr un ai'n ad-dalu cost y tocyn neu'n darparu pàs teithio. Os oes gennych unrhyw
gwestiynau ynghylch cludiant, anfonwch neges e-bost i transport@gllm.ac.uk.
- Bydd y dysgwyr sy'n cael cymorth dysgu yn parhau i gael cefnogaeth tra byddant yn astudio o adref.
- Os bydd dysgwyr angen cefnogaeth gyda sgiliau astudio cysylltwch â sgiliauastudio@gllm.ac.uk.
- Os bydd dysgwyr angen defnyddio TG yn y coleg i gwblhau gwaith cwrs, bydd y cyfleusterau hyn ar gael ym
mhob un o'n llyfrgelloedd fel a ganlyn:
- Bangor a Llangefni (dydd Llun-dydd Gwener 9am-4pm)
- Glynllifon a Phwllheli (dydd Llun-dydd Iau 9am-4.30pm)
- Dolgellau (dydd Iau 9am-4.30pm, dydd Gwener 9am-4pm)
- Yr holl lyfrgelloedd eraill (dydd Llun-dydd Iau 9am-4.30pm, dydd Gwener 9am-4pm)
- Rhaid archebu cyfleusterau TG drwy gysylltu â learningtechnology@gllm.ac.uk
Dysgwyr Addysg Uwch
- Gallwch wneud cais am Amgylchiadau Lliniarol pan fydd rhesymau y tu allan i'ch rheolaeth yn amharu ar
eich astudiaethau e.e. os byddwch yn sâl neu os bydd sefyllfa wedi cael effaith andwyol ar eich
perfformiad.
- Byddwn yn cynnal cyfarfodydd o'r paneli ALl yn rheolaidd a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad
drwy eich e-bost colegol.
- Mae'n bosibl na fydd angen tystiolaeth am geisiadau ALl a wneir yn sgil COVID-19 os ydych yn weithiwr
rheng flaen, yn gwarchod plant gartref, â chyfrifoldebau gofalu neu'n dioddef o'r Coronafeirws.
Mae'r canllawiau llawn ynghylch ALl i'w cael ar: https://www.gllm.ac.uk/hepolicies/
Byddaf yn parhau i rannu gwybodaeth â chi drwy gyfryngau cymdeithasol, gwefan ac e-bost y coleg.
Hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol a newidiol hwn.
Diolch a chadwch yn ddiogel,

Dafydd
Evans
Prif Weithredwr
Grŵp Llandrillo Menai
Ffordd
Llandudno
Llandrillo-yn-Rhos
Conwy LL28 4HZ
Ffôn: 01492 546666