Cynllunnir rhaglenni hyfforddeiaeth i ddatblygu'ch sgiliau ac i'ch helpu i ennill cymwysterau a fydd yn arwain at swydd, prentisiaeth neu hyfforddiant pellach.
Nid oes gofynion mynediad, ond bydd gofyn i chi fynychu'n canolfan am o leiaf 21 awr yr wythnos.
Os ydych rhwng 16 a 18 oed ac yn awyddus i ddilyn rhaglen lefel 1 neu gymhwyster cyfatebol, neu os nad ydych yn siŵr pa gam nesaf i'w gymryd ac yn teimlo bod arnoch angen help, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu cysylltwch â Gyrfa Cymru a gofyn am gael eich cyfeirio at un o'n rhaglenni Hyfforddeiaeth.
Bydd rhaglen hyfforddeiaeth yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau a phenderfynu beth allwch ei wneud yn dda.
Hyfforddeiaeth Ymgysylltu
Bydd y rhaglen hon yn para hyd at 21 awr yr wythnos am rhwng 4 a 26 wythnos. Cewch lwfans o £30 yr wythnos yn ogystal â help i dalu'ch costau teithio. Mae'r rhaglen Hyfforddeiaeth Ymgysylltu'n gyfle gwych i ddatblygu a’ch paratoi i ddysgu rhagor neu i weithio. Gall eich helpu i fagu hyder a chewch hyd yn oed roi cynnig ar amrywiaeth o sgiliau, gweithio mewn amgylchedd realistig a chymryd rhan mewn prosiectau cymunedol.
Hyfforddeiaeth Lefel 1
Mae'r cwrs yn para rhwng 6 a 9 mis ac fel rheol fe'i cynhelir dros 5 niwrnod, 30 awr yr wythnos. Cewch lwfans hyfforddi o £50 yr wythnos a chewch help hefyd i dalu'r costau teithio.
Byddwch wedi'ch lleoli yn y coleg neu cewch eich anfon yn syth i gael profiad gwaith gyda chwmni. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig rhaglenni Hyfforddeiaeth yn y meysydd a ganlyn:
- Blynyddoedd Cynnar / Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Gweinyddu Busnes
- Arlwyo
- Trin gwallt
- Gwneud Gwaith Cynhyrchu
- Chwaraeon
- Gosod Cydrannau ar Gerbydau
- Manwerthu a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
- Technoleg Gwybodaeth
- Adeiladu
Manteision Rhaglen Hyfforddeiaeth
- Lwfans hyfforddi o £30–£50 yr wythnos
- Treuliau teithio wythnosol
- Cyfle i dreulio wythnos neu ddwy mewn mathau gwahanol o swyddi
- Cymorth ac arweiniad rheolaidd i'ch helpu i gymryd y cam nesaf yn yr yrfa o'ch dewis
- Cymorth gyda sgiliau hanfodol fel: cyfathrebu, rhifedd, TG a gweithio mewn tîm.