Peirianneg

Mae Gogledd Orllewin Cymru angen Peirianwyr i lenwi ystod eang o swyddi cyffrous sy'n talu'n dda.

Mae cyfleoedd ar gael yn lleol yn y meysydd canlynol:

  • Mecanyddol
  • Trydanol/Electronig
  • Gweithgynhyrchu
  • Gweithgynhyrchu Uwch
  • Roboteg ac Awtomasiwn
  • Ynni (Adnewyddadwy)
  • Awyrenegol (Jetiau) • Ffabrigo a Weldio
  • Rheoli ac Offeryniaeth
  • Mae’n colegau’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd hyfforddi a fydd yn ein helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Beiriannydd.

Caiff ein holl gyrsiau eu darparu mewn ystafelloedd dosbarth modern a gweithdai o safon ddiwydiannol. Rydym yn cydweithio â chwmnïau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i alluogi pobl ifanc i ennill y sgiliau o ansawdd uchel y mae ar gyflogwyr eu hangen.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Peirianneg
  • Ffabrigo a Weldio
  • Peirianneg Fecanyddol
  • Peirianneg Pŵer

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau lefel Gradd. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Lefel 1


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • Diddordeb mewn peirianneg

Cyrsiau y gallwch eu hastudio


Lefel 2


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • 4 TGAU, DDDE i CCCC, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 1 yn llwyddiannus

Lefel 3


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • 5 TGAU, A*-C, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 2 yn llwyddiannus

Lefelau 4 - 6


Arweiniad ar ofynion mynediad:

  • Wedi astudio Lefel A Mathemateg neu Ffiseg, neu
  • Wedi cwblhau Lefel 3 yn llwyddiannus

Y Ganolfan Beirianneg newydd Campws Coleg Llandrillo yn y Rhyl

Bydd y ganolfan yn cyflwyno addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf yn y byd i’r sector peirianneg a bydd yn eich galluogi chi i ddatblygu eich sgiliau i fodloni anghenion y diwydiant yn y dyfodol, yn cynnwys sgiliau hanfodol ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy, gweithgynhyrchu ychwanegion a’r trawsnewid digidol yn y diwydiant.

Bydd y cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o’r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf - o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a pheiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron.

Mewn partneriaeth â’r cwmni rhyngwladol RWE Renewables, sy’n rheoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ym Mhrydain, bydd y datblygiad newydd yn cynnwys sefydliad newydd ar gyfer Technoleg Ynni Adnewyddadwy. Un o nodweddion amlwg yr adeilad fydd neuadd dri llawr ar raddfa ddiwydiannol i wasanaethu a chynnal a chadw tyrbinau gwynt.
Y Ganolfan Beirianneg - Y Rhyl

Gyrfa mewn Peirianneg


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith